Novak Djokovic i gael ei alltudio o Awstralia yn dilyn ffrae visa

Bydd y chwaraewr tenis Novak Djokovic yn gorfod gadael Awstralia yn dilyn ffrae dros gyfyngiadau Covid-19.
Roedd Djokovic wedi datgelu ei fod wedi derbyn eithriad meddygol i reolau brechu llym y wlad er mwyn gallu cystadlu ym mhencampwriaeth yr Australian Open.
Ond fe gafodd rhif un y byd ei gadw ar ei ben eu hun ym maes awyr Melbourne ar ôl cyrraedd y wlad yn gynharach ddydd Mercher, ac ar ôl i’r awdurdodau sylweddoli fod camgymeriad ar ei gais visa, fe gafodd y mater ei gyfeirio at lywodraeth y wlad.
Yn ôl Sky News, mae’r llywodraeth wedi gwrthod iddo gael visa, ac fe fydd yn rhaid i Djokovic nawr adael y wlad.
Mae'r chwaraewr o Serbia wedi gwrthod cadarnhau os ydyw wedi cael ei frechu yn erbyn Covid-19 ac fe welwyd ymateb chwyrn yn Awstralia pan gafodd eithriad i'r rheolau.
Mae disgwyl i gyfreithwyr Djokovic herio'r penderfyniad.
Darllenwch y stori'n llawn yma.