Covid-19: 14,036 o achosion newydd a 14 marwolaeth arall
Mae 14,036 yn rhagor o achosion o Covid-19 wedi eu cofnodi yn ôl ystadegau dyddiol diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cafodd 14 o farwolaethau newydd eu cofnodi ac mae'r gyfradd achosion ymhob 100,000 o'r boblogaeth yn ystod y saith diwrnod hyd at 27 Rhagfyr yn 1,415.4.
Bellach mae 646,159 achos positif wedi eu cofnodi ers dechrau'r pandemig, gyda 6,581 o farwolaethau yn gysylltiedig â'r haint wedi eu cofnodi yng Nghymru.
Mae'r gyfradd o achosion dros saith diwrnod ar ei huchaf yn ardaloedd awdurdodau lleol Merthyr Tudful (cyfradd o 1,826.7 ymhob 100,000 hyd yma), Rhondda Cynon Taf (cyfradd 1,741.7 ymhob 100,00) a Chaerdydd (cyfradd o 1,586.5 ymhob 100,00).
Mae'r gyfradd o brofion positif yn y wlad bellach yn 41.8%.
Nid oedd diweddariad o'r nifer o frechiadau Covid-19 sydd wedi eu dosbarthu yng Nghymru ddydd Sul oherwydd oedi yn yr adrodd dros Benwythnos Gŵyl y Banc.