Ymgyrch i godi arian yn dilyn difrod i eglwys hynafol yng Ngheredigion

Mae ymgyrchwyr wedi lansio cronfa apêl yn dilyn difrod i Eglwys Mwnt ger Aberteifi dros gyfnod y Nadolig.
Mae angen £20,000 er mwyn adfer difrod a wnaed gan fandaliaid i’r eglwys sydd ar arfordir Ceredigion.
Mae’r heddlu yn ymchwilio i’r digwyddiad.
Dywedodd y cynghorydd lleol, Clive Davies bod difrod wedi ei wneud tu mewn i’r adeilad a bod ffenestri wedi eu dinistrio.
“Mae’n newyddion ofnadwy fod rhywbeth fel hyn wedi digwydd i eglwys mor eiconig â hon", meddai.
Darllenwch y stori yn llawn yma.