Gwella rhestrau aros GIG Cymru yn 'dasg enfawr'
Fe fydd y gwaith o leihau rhestrau aros y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn "dasg enfawr", yn ôl y Gweinidog Iechyd.
Dywedodd Eluned Morgan wrth raglen Bore Sul ar BBC Radio Cymru fod gwella'r sefyllfa yn un o'i blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn newydd.
Dywedodd y Gweinidog: "Mae cannoedd o filoedd o bobl nawr yn aros am help o’r NHS ar rhestri aros.
"Ma’ hwnna’n mynd i fod yn dasg enfawr ac wrth gwrs mae’n bwysig ein bod ni’n dechrau ar y gwaith yna cyn gynted ag sy’n bosibl."
Dywedodd y Farwnes Morgan bod gwella'r system ofal hefyd yn flaenoriaeth iddi.
"Beth sy’n bwysig i fi yw bod ni’n helpu’r sefyllfa o ran gofal yn ein cymunedau ni, achos un o’r rhesymau ma’r NHS dan gymaint o bwysau yw achos bod y system gofal mor fregus yn ein cymunedau ni," meddai.
"Dyna pam ‘yn ni wedi dod i sefyllfa nawr lle ni’n mynd i roi’r Real Living Wage i bobl sy’n gweithio yn y sector gofal."
'Dim digon o staff'
Daw sylwadau'r Gweinidog wrth i amrywiolyn Omicron barhau i ledaenu yng Nghymru.
Mae'r nifer o achosion o Covid-19 yng Nghymru bellach wedi cyrraedd ymhell dros 1,000 o achosion i bob 100,000 o bobl.
Dywedodd Eluned Morgan fod y cynnydd mewn achosion yn rhoi pwysau ychwanegol ar y GIG.
"Dyna yw un o’r problemau mwya’ nawr yw y staff yn yr NHS yn diodde’ ac felly ddim digon o staff i ofalu am bobl sydd yn mynd yn sâl.
"Ma’ rhaid chi gofio hefyd taw Ionawr yw’r amser caleta’ i’r NHS mewn unrhyw flwyddyn heb sôn am flwyddyn lle ma’ gyda ni Covid," meddai.
Cafodd rhagor o gyfyngiadau eu cyflwyno yng Nghymru ar Ŵyl San Steffan, gan gynnwys cyfyngu digwyddiadau i 30 o bobl dan do a 50 yn yr awyr agored.
Mae'r rheol "chwe pherson" hefyd wedi dychwelyd i leoliadau lletygarwch.
Ar hyn o bryd, nid oes cyfyngiadau newydd wedi eu cyflwyno yn Lloegr.
"‘Yn ni wedi mynd ymhellach na Lloegr achos ein bod ni ishe gweld os allwn ni gael sefyllfa lle ‘dyn ni ddim yn gweld pig uchel a bydde yn rhoi pwysau gormodol ar yr NHS yma yng Nghymru a dyna un o’r rhesymau pam ‘yn ni wedi dod â’r cyfyngiadau newydd yma mewn."