
Gweinidog Iechyd yn galw ar bobl i fod yn ofalus wrth ddathlu Nos Galan

Gweinidog Iechyd yn galw ar bobl i fod yn ofalus wrth ddathlu Nos Galan
Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi galw ar bobl i fod yn ofalus wrth ddathlu Nos Galan gan rybuddio y gall mis Ionawr fod yn un "anodd dros ben" yn sgil cynnydd mewn achosion Covid-19.
Cafodd dros 10,000 o achosion newydd eu cofnodi yng Nghymru ddydd Gwener wrth i gyfradd yr achosion barhau i gynyddu ymysg y boblogaeth.
Gyda chlybiau nos ar gau a chyfyngiadau yn ei le i fannau lletygarwch mewn ymgais i geisio rheoli lledaeniad yr amrywiolyn Omicron, mae disgwyl i Nos Galan fod yn dawelach nag arfer yng Nghymru eleni.
Mae pryderon bod nifer o bobl yn beriadu teithio o Gymru i Loegr, lle nad yw’r cyfyngiadau mor llyn, i ddathlu'r flwyddyn newydd.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wrth Newyddion S4C y dylai pobl gymryd gofal wrth fwynhau digwyddiadau Nos Galan.
"Wrth gwrs mae 'na achos i ddathlu. Ma' flwyddyn arall wedi dod i ben. Ac wrth gwrs mae lot o bobl wedi cael y cyfle nawr i gael y booster. A ma' hwnna'n rheswm i ddathlu," meddai.

"Ond wrth gwrs mae Omicron dal gyda ni. Odd y niferoedd yn yr ysbytai yn lleihau cyn y Nadolig. Ond ma' nhw wedi dechrau cynyddu nawr.
"Ac mae'n bosibl iawn bydd pobl yn dal y feirws yma sydd yn ymledu'n gyflym, ac felly'r neges yw i fod yn ofalus iawn. Dwi’n rhagweld Ionawr anodd iawn."
Wrth i rai pobl deithio dros y ffin ar gyfer y dathliadau, mae rhai aelodau o’r sector lletygarwch yng Nghymru yn pryderu bod tafarndai a bwytai Lloegr yn elwa tra fod y sector yng. Nghymru yn dioddef.
Mae Merfyn Parry yn rhedeg tafarn y Golden Lion ger Wrecsam, ac yn disgwyl noson dawel wrth i bobl deithio i Gaer am y noson.
"Fel arfer fyse'n noson brysur iawn yn y Golden Lion yma ar noson galan," meddai.
"Ond fel mae pobl 'di penderfynu, mae 'na rywun ym mhob teulu wyrach efo Covid ac maen nhw 'da bach mwy o ofn, mae'n siŵr fydd nifer' lawr yn lle fel hyn ynde."
"Os ti'n siarad i'r ieuenctid mae nhw wedi penderfynu bod nhw am fynd drosodd i Gaer for' 'na i gael noson allan achos, maen nhw’n medru mynd rownd y clybie a'r bars yn fana i neud fel licie nhw ar noson i gael noson dda."
"Dwi 'im yn gweld dim bai arnyn nhw ddweud y gwir." Ychwanegodd Mr Parry.