'Dylai trydydd brechiad fod ar frig rhestr adduned blwyddyn newydd pawb'
Wrth i 2021 ddirwyn i ben, a phawb yn barod i groesawu blwyddyn newydd, mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y bydd yn “gwneud popeth” o fewn ei allu i ddiogelu pobl Cymru a’r wlad ei hun.
Mewn neges obeithiol, mae Mark Drakeford yn dweud fod posib i bobl ddod allan o’r pandemig yn gryfach os fydd pawb yn “diogelu ein gilydd.”
Ac wrth edrych tuag at y dyfodol, mae’r Prif Weinidog yn obeithiol wrth ddatgan yn hyderus fod “dyddiau gwell i ddod.”
Ond mae ganddo neges dymhorol a phwysig i bawb sy’n bwriadu gwneud adduned flwyddyn newydd.
Os nad ydi pobl wedi cael eu trydydd brechiad yn barod, mae'r Prif Weinidog yn pwysleisio y dylai hynny fod “ar frig” rhestr adduned blwyddyn newydd pawb.
Amddiffyn
Gan edrych yn ôl ar y 12 mis diwethaf, mae Mr Drakeford yn eu disgrifio fel “blwyddyn eithriadol, ac, weithiau, blwyddyn anodd.”
Dywedodd Mr Drakeford: “Unwaith yn rhagor, mae ein gweithwyr rheng flaen, a staff y Gwasanaeth Iechyd, wedi gweithio’n fwy caled nac erioed.
“Dydd a nos, maent wedi gofalu amdanom ac wedi ein hamddiffyn ni.
“Diolch o galon i chi gyd.”
Wrth droi at y flwyddyn newydd o’n blaenau, dywed Mr Drakeford ei bod hi’n flwyddyn newydd “llawn posibiliadau.”
Ffrindiau
Ychwanegodd: “Bydd llawer ohonom yn gwneud adduniadau blwyddyn newydd, ac os nad ydych wedi gwneud hynny’n barod, rhowch y trydydd brechiad ar dop eich rhestr.”
Dywed ei fod yn gwybod y bydd wythnosau cyntaf 2022 yn “anodd”, wrth i’r amrywiolyn Omicron symud yn gyflym drwy gymunedau yn y wlad.
“Byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn i’ch diogelu chi a diogelu Cymru. Gyda’n gilydd, fe wnawn ni ddiogelu ein gilydd, a dod allan o’r pandemig yn gryfach.
“Mae dyddiau gwell i ddod. Amser eto i fod gyda ffrindiau a theulu. Amser i greu atgofion newydd.
“Felly, os gwelwch yn dda, dewch i ni dynnu gyda’n gilydd eto ar drothwy blwyddyn arall.
“Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.”