Covid-19: Cyfnod hunan ynysu i ostwng o 10 diwrnod i saith
Mae’r cyfnod hunan ynysu i bobl yng Nghymru sydd â Covid-19 i ostwng o 10 diwrnod i saith diwrnod.
Fe fydd hyn ond yn berthnasol i bobl sydd yn derbyn profion llif unffordd negyddol ar ddiwrnodau chwech a saith o’r cyfnod o hunan-ynysu.
Mae’n rhaid i’r profion llif unffordd fod 24 awr ar wahân ac os ydy un neu’r llall yn bositif yna bydd yn rhaid i bobl gario mlaen i hunan-ynysu.
Daw’r newid yma i rym ar 31 Rhagfyr yn hytrach na 5 Ionawr fel y cynlluniwyd yn wreiddiol.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod hyn oherwydd “y nifer cynyddol o achosion yn effeithio ar ein gallu i gynnal gwasanaethau hanfodol.”
Ychwanegodd fod y sefyllfa "wedi dirywio yn ystod yr wythnos ddiwethaf wrth i'r don Omicron gyrraedd.
"Rydym wedi gweld cynnydd amlwg yn nifer yr achosion o coronafeirws – mae'r mwyafrif yn debygol o fod o ganlyniad i amrywiolyn Omicron. Mae hyn yn debyg i'r sefyllfa ar draws y DU.
"Dros y dyddiau diwethaf, rydym wedi gweld y nifer uchaf erioed o heintiau ac mae'r gyfradd o achosion dros saith diwrnod wedi codi i fwy na 1,000 o achosion fesul 100,000 o bobl ledled Cymru."
Cleifion mewn ysbytai
Mewn datganiad dydd Iau, dywedodd Mr Drakeford fod cyfnodau cleifion Covid-19 yn yr ysbyty yn parhau'n is nag yn ystod tonnau blaenorol, ond mae'r rhain hefyd yn dechrau cynyddu:
"Mae'r defnydd cyffredinol o welyau Covid-19 wedi cynyddu traean dros gyfnod y Nadolig. Mae hwn yn gyfuniad o achosion Omicron a Delta.
"Mae’r nifer o gleifion Covid-19 sydd wedi'u cadarnhau yn yr ysbyty hefyd wedi cynyddu i 446 ar 29 Rhagfyr. Mae hyn 49% yn uwch na'r un diwrnod yr wythnos ddiwethaf. Nid ydym wedi gweld cynnydd yn y nifer o gleifion Covid-19 sydd angen gofal critigol."
Ychwanegodd fod "ymdrechion enfawr" wedi’u gwneud i ddarparu brechlynnau atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys yn y cyfnod cyn y Nadolig, gyda bron i 1.6m o bobl wedi cael brechlyn atgyfnerthu bellach.
Profion i'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr
Dywedodd Mr Drakeford hefyd fod y galw am brofion PCR a phrofion llif unffordd yn parhau i gynyddu ac mae wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed.
"Mae gan Gymru stoc sylweddol o brofion llif unffordd, sy'n ddigonol ar gyfer ein hanghenion dros yr wythnosau nesaf.
"Mae'r Gweinidog Iechyd wedi cytuno heddiw i fenthyg pedair miliwn yn rhagor o brofion o'r fath i NHS Lloegr, gan ddod â'r cymorth hwnnw sydd o fudd i bawb i 10 miliwn o brofion llif unffordd", ychwanegodd.