Newyddion S4C

Cofnodi 21,000 achos newydd o Covid-19 yng Nghymru dros 48 awr

30/12/2021
Stryd y Frenhines, Caerdydd

Mae 21,051 o achosion pellach o Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru, a hynny dros gyfnod o 48 awr hyd at 09:00 fore dydd Mercher.

Yn ôl ystadegau dyddiol diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru fe gafodd tair marwolaeth yn rhagor eu cofnodi hefyd, a hynny dros gyfnod o 24 awr.

Bellach mae 8,099 o achosion o'r amrywiolyn Omicron wedi eu cofnodi yng Nghymru, gyda'r mwyafrif (2,499) yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

Mae'r gyfradd achosion ymhob 100,000 o'r boblogaeth dros saith diwrnod hyd at 25 Rhagfyr wedi cynyddu unwaith eto i 1092.5. 

Dywed Iechyd Cyhoeddus cymru fod angen gofal wrth ddadansoddi'r data am brofion diweddaraf gan y gall y ffigyrau fod yn uwch.

Mae 621,732 achos positif a 6,556 o farwolaethau wedi eu cofnodi ers dechrau'r pandemig erbyn hyn.

Mae'r gyfradd ar ei huchaf yn ardaloedd awdurdodau lleol Caerdydd (1,364.1), Merthyr Tudful (1,243.2) a Rhondda Cynon Taf (1,232.7).

Dim ond Powys (728.7), Blaenau Gwent (767.2) a Sir Caerfyrddin (778.7) sydd â chyfradd yn is na 800 ymhob 100,000 o bobl. 

Hyd yma mae 2,489,359 o bobl wedi derbyn o leiaf un brechiad rhag Covid-19, mae 2,301,312 wedi derbyn dau ddos, ac mae 1,594,972 o bobl wedi derbyn eu brechiad atgyfnerthu. 

Gallwch ddod o hyd i'r ffigyrau diweddaraf ar nifer yr achosion, marwolaethau a brechiadau ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.