Newyddion S4C

Bron i 6,000 achos newydd o Covid-19 a dwy farwolaeth yn rhagor

29/12/2021
Profi Covid-19

Mae 5,929  yn rhagor o achosion o Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru yn ôl ystadegau dyddiol diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cafodd dwy farwolaeth newydd eu cofnodi ac mae'r gyfradd achosion ymhob 100,000 o'r boblogaeth dros saith diwrnod wedi cynyddu unwaith eto i 1079.3. 

Mae 600,682 achos positif a 6,553 o farwolaethau wedi eu cofnodi ers dechrau'r pandemig erbyn hyn.

Mae'r gyfradd ar ei huchaf yn ardaloedd awdurdodau lleol Caerdydd (1,339.8), Bro Morgannwg (1,226.9) a Merthyr Tudful (1,206.8).

Dim ond Powys (727.9), Blaenau Gwent (755.8) a Sir Caerfyrddin (771.3) sydd â chyfradd yn is na 800 ymhob 100,000 o bobl. 

Hyd yma mae 2,488,374 o bobl wedi derbyn o leiaf un brechiad rhag Covid-19, mae 2,300,054 wedi derbyn dau ddos, ac mae 1,559,687 o bobl wedi derbyn eu brechiad atgyfnerthu. 

Gallwch ddod o hyd i'r ffigyrau diweddaraf ar nifer yr achosion, marwolaethau a brechiadau ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.