Newyddion S4C

Dau o staff Save the Children wedi marw mewn ymosodiad ym Myanmar

28/12/2021
Save the Children

Mae dau aelod o staff Save the Children wedi eu lladd mewn ymosodiad ym Myanmar, yn ne-ddwyrain Asia.

Mae'r elusen wedi cadarnhau fod y ddau ddyn ymhlith o leiaf 35 o bobl, gan gynnwys menywod a phlant, fu farw yn yr ymosodiad yn Nhalaith Kayah yn nwyrain y wlad ar Noswyl Nadolig.

Roedd y ddau wedi dod yn dadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond nid ydynt wedi eu henwi am resymau diogelwch.

Roedd un o'r dynion yn 32 oed, gyda mab 10 mis oed ac wedi bod yn gweithio i'r elusen ers dwy flynedd yn hyfforddi athrawon.

Roedd y dyn arall yn 28 oed ac roedd ganddo ferch tri mis oed ac fe ymunodd â'r elusen chwe blynedd yn ôl.

Roedd y ddau ar eu ffordd yn ôl i'w swyddfa ar ôl gweithio ar ymateb dyngarol mewn cymuned gyfagos pan gawsant eu dal yn yr ymosodiad.

Dywedodd Gwen Hines, Prif Weithredwr Save the Children UK: "Mae'r newyddion hyn yn gwbl erchyll.  Mae trais yn erbyn dinasyddion diniwed gan gynnwys gweithwyr cymorth yn annioddefol, ac mae'r ymosodiad disynnwyr hwn wedi torri Cyfraith Ddyngarol Ryngwladol. 

"Rydym wedi'n hysgwyd gan y trais sydd wedi ei gyflawni yn erbyn sifiliaid a'n staff, sy'n ddyngarwyr ymrwymedig, sy'n cefnogi miliynau o blant mewn angen ar draws Myanmar".

Mae ymchwiliadau'n parhau i natur y digwyddiad ac mae staff yr elusen a'r teuluoedd sydd wedi eu heffeithio yn derbyn y gefnogaeth sydd arnynt ei angen.

Mae'r elusen wedi atal eu gweithgareddau mewn rhannau o Myanmar am y tro yn sgil y digwyddiad, gan gynnwys Kayah.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.