Newyddion S4C

Dinasoedd Cymru a’r Alban yn wag dros ŵyl y banc yn sgil cyfyngiadau newydd

28/12/2021
caerdydd bariau

Roedd dinasoedd Cymru a’r Alban yn dawel a difywyd dros ŵyl y banc yn sgil cyfyngiadau Covid-19 newydd ar y diwydiant lletygarwch.

Caewyd clybiau nos yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon ddydd Llun, tra bod y rheol chwe pherson a phellhau cymdeithasol wedi cael eu ail gyflwyno mewn tafarndai a bwytai.

Cafodd ei gadarnhau nos Lun a fydd rhagor o gyfyngiadau Covid-19 yn cael eu cyflwyno yn Lloegr cyn y flwyddyn newydd, serch hynny.

Mae’r Daily Mail yn adrodd fod hi’n olygfa dra gwahanol ar strydoedd dinasoedd Lloegr, lle fentrodd pobl i glybiau nos a thafarndai i ddathlu’r ŵyl y banc.

Cafodd y cyfyngiadau newydd eu cyflwyno yng Nghymru yn sgil lledaeniad cyflym o’r amrywiolyn Omciron.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r gyfradd achosion fesul 100,000 o bobl dros saith diwrnod yn 724.9.

Ddydd Gwener, ar ddiwrnod noswyl Nadolig, cafodd y nifer mwyaf o achosion mewn 24 awr eu cofnodi yng Nghymru erioed, gyda 6,755.

Image
Mark Drakeford
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru adolygu cyfyngiadau Covid yn wythnosol. 

Mae 1,689 o achosion o’r amrywiolyn newydd wedi eu cadarnhau yng Nghymru hyd yma.

Mae’r prif weinidog Mark Drakeford wedi annog pobl i gymryd prawf llif unffordd cyn mynd allan o’r tŷ.

Mae'r llywodraeth ac asiantaethau iechyd hefyd yn pwysleisio ar bobl i gael eu brechiad atgyfnerthu, gyda tharged i gynnig brechiad i bawb dros 18 oed erbyn diwedd mis Rhagfyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.