Dim cyfyngiadau Covid newydd yn Lloegr 'cyn y flwyddyn newydd'

Mae disgwyl i ddathliadau Nos Galan fynd yn eu blaen yn Lloegr wedi i Ysgrifennydd Iechyd Lloegr gadarnhau na fydd cyfyngiadau newydd cyn y flwyddyn newydd.
Dywedodd Sajid Javid na fyddai unrhyw gyfyngiadau yn cael eu cyflwyno yn Lloegr "tan y flwyddyn newydd o leiaf", yn ôl The Sun.
Serch hynny, roedd yn annog pobl i gymryd gofal wrth gwrdd dros y dyddiau nesaf gan annog pobl i gymryd prawf cyn cwrdd ag eraill a chwrdd yn yr awyr agored pan yn bosib.
Daw hyn wrth i ddata ddangos fod Lloegr wedi cofnodi'r nifer uchaf o achosion ers dechrau'r pandemig ar Ddydd Nadolig.
Mae hyn yn gam i gyfeiriad gwahanol i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon sydd eisoes wedi cyflwyno nifer o fesurau.
Ers Dydd San Steffan mae'r rheol "chwe pherson" wedi dychwelyd i leoliadau lletygarwch yng Nghymru a digwyddiadau wedi eu cyfyngu i 30 o bobl dan do a 50 person y tu allan.
Mwy ar y stori yma.