Dyn o Sir Fynwy yn ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth

Mae dyn 42 oed wedi ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Gwener wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth.
Mae Darren Smith, 42 oed o Sir Fynwy, wedi ei gyhuddo o lofruddio dyn mewn maes garafanau yn Sir Fynwy.
Yn ôl Heddlu Gwent, cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân mewn carafán ym Mharc Carafanau Preswyl Beeches ger Magwyr yn oriau man bore dydd Llun, 20 Rhagfyr.
Cafodd Richard Thomas, 52, ei gludo i’r ysbyty ar ôl dioddef anafiadau difrifol yn y digwyddiad a bu farw yn hwyrach ymlaen y bore hwnnw.
Yn y gwrandawiad heddiw (dydd Gwener, 24 Rhagfyr), fe wnaeth Smith siarad unwaith yn unig i gadarnhau ei enw a’i gyfeiriad, sydd hefyd ym Mharc Carafanau Beeches.
Adrodda Golwg360 y bydd Smith yn parhau yn y ddalfa nes gwrandawiad arall yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau, 30 Rhagfyr.
Mwy am y stori yma.