Galw am leihau'r cyfnod hunan-ynysu i bobl sy'n profi'n bositif am Covid-19
Mae yna alwad am newid y cyfnod hunan-ynysu ar gyfer pobl sy'n profi'n bositif am Covid-19.
Dywed y Ceidwadwyr Cymreig y byddai lleihau ar y cyfnod hunan-ynysu yn ymateb i bryderon am argaeledd gweithwyr dros yr wythnosau nesaf, yn enwedig o fewn y gwasanaeth iechyd.
Dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddydd Mercher y byddai pobl yn Lloegr yn gallu dod â'u cyfnod i ben wedi saith diwrnod yn lle 10 diwrnod.
Ond fe fydd yn rhaid iddynt gael canlyniadau prawf llif unffordd negyddol ar ddyddiau chwech a saith.
Mae ymchwil gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) yn awgrymu bod gan gyfnod o saith diwrnod a dau ganlyniad negyddol bron yr un effaith â chyfnod hunan-ynysu o 10 diwrnod.
Dywed Llywodraeth Cymru nad oeddynt yn bwriadu cyflwyno newid i'r cyfnod hunan-ynysu ar hyn o bryd, ond bod systemau yn eu lle i alluogi newid o 5 Ionawr pe bai'r sefyllfa'n newid.
Mae'r Gweinidog Iechyd eisoes wedi cadarnhau newid i gyfnod hunan-ynysu cysylltiadau agos yng Nghymru.
Os oes rhywun wedi eu brechu'n llawn ac yn dod i gyswllt â Covid-19, byddan nhw ddim yn gorfod hunan-ynysu cyn belled â'u bod nhw'n derbyn canlyniad prawf negyddol bob dydd am saith diwrnod.
'Aros i weld'
Mae Elen Haf Roach yn byw yn Aberystwyth.
Roedd hi'n bwriadu dychwelyd at ei theulu ym Mhont Pelcomb ger Hwlffordd yn Sir Benfro dros y Nadolig, ond ar ôl profi'n bositif am Covid-19 bydd yn rhaid iddi hunan-ynysu ar ben ei hun dros yr ŵyl.
Dan y rheolau ar hyn o bryd, bydd ei chyfnod yn hunan-ynysu yn dod i ben ar Nos Galan, ond mae'n gobeithio y bydd y rheolau yng Nghymru yn newid yn unol â'r newidiadau yn Lloegr.
Dywedodd Elen wrth Newyddion S4C: "Wel, fel mae'n sefyll ar hyn o bryd byddai'n cael dod mas o'r hunan-ynysu ar Nos Galan sy'n grêt a dwi'n bwriadu gyrru adre' yn syth ond falle'n gobeitho bydd Llywodraeth Cymru falle'n dewis dilyn beth sydd wedi digwydd yn Lloegr a gostwng nifer y diwrnodau o 10 i saith.
"Yn amlwg, bydde hynny yn wych ac i weud y gwir yr anrheg Nadolig gore gallen i obeithio amdano ar hyn o bryd a yn amlwg bydden i'n gallu mynd adre' ynghynt ac i ddechre'r dathliade ynghynt hefyd ond ie, bydd rhaid aros i weld beth sy'n digwydd gyda hynny."
'Galluogi newid o 5 Ionawr'
Dywedodd Prif Weithredwr UKHSA, Dr Jenny Harries ddydd Mercher y gallai cyflymder Omicron wrth ledaenu fod yn "risg i gynnal ein gwasanaethau cyhoeddus critigol yn ystod y gaeaf".
"Bydd y cyngor newydd hwn yn helpu i dorri trosglwyddiad a lleihau'r effaith ar fywydau a bywoliaethau".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi cymryd camau cyflym a phendant yn erbyn yr amrywiolyn Omicron newydd coronafeirws drwy weithredu cyfres o fesurau i gadw Cymru - a phobl yng Nghymru - yn ddiogel.
“O ganlyniad, nid ydym yn newid y rheol hunan ynysu o 10 diwrnod ar gyfer achosion cadarnhaol yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae gennym systemau ar waith i alluogi newid o’r 5ed Ionawr pe bai cydbwysedd y niwed yn newid, ac mae cynnydd yn nifer yr achosion yn peryglu ein gallu i ddarparu gwasanaethau critigol.”
Bydd rheolau newydd yn dod i rym yng Nghymru o Ddydd San Steffan, gyda'r rheol "chwe pherson" yn dychwelyd i leoliadau megis lletygarwch, theatrau a sinemâu a chlybiau nos yn cau eu drysau.
Bydd cosbau am gwrdd mewn grŵp o fwy na 30 o bobl dan do neu 50 o bobl yn yr awyr agored a bydd gemau chwaraeon ond yn gallu cael torf o 50 yn gwylio.