
O law i law: Merch fach yn rhoi dilledyn arbennig i glaf ifanc ar ôl cyfnod o waeledd
O law i law: Merch fach yn rhoi dilledyn arbennig i glaf ifanc ar ôl cyfnod o waeledd
Mae merch saith oed oedd yn ddifrifol wael wedi rhoi “ffrog arbennig” yn anrheg Nadolig i blentyn sy’n gorfod treulio’r wŷl yn yr ysbyty.
Yn 2015 roedd yn rhaid i Mili Roberts o Fethesda dreulio cyfnod y Nadolig yn Ysbyty Gwynedd oherwydd salwch.
Gan fod Mili bellach wedi gwella, mae hi wedi rhoi’r anrheg o “deimlo fel tywysoges” i blentyn sâl arall ar ddiwrnod Nadolig, drwy elusen Tŷ Ronald McDonald.
Dechreuodd salwch Mili yn 16 mis oed, pan gafodd ei rhuthro i Ysbyty Plant Alder Hay yn Lerpwl gydag E. Coli, sepsis a methiant yr arennau.

Mae Cheryl Roberts, mam Mili wedi disgrifio’r cyfnod fel un “erchyll”, ond roedd Tŷ Ronald McDonald wedi bod yn gefn mawr iddi hi a’i gŵr.
“Tra oedd Mili yn cael triniaeth yn intensive care gesi aros yn Dŷ Ronald McDonald. Lle oni ‘rioed wedi clywed am o’r blaen.
“Mae’n wir pam ma' pobl yn dweud, ti ddim yn clywed am yr elusennau ‘ma nes ti angen o dy hun.”
‘Y ffrog dywysoges’
Er i Mili fod yn yr ysbyty noswyl a diwrnod y Nadolig, roedd Sion Corn wedi trefnu ei bod yn cael ei anrhegion.
Mae un anrheg yn aros yn y cof i Mili, sef ffrog las oedd wedi gwneud iddi “deimlo fel tywysoges go iawn” yn ystod cyfnod anodd o salwch.

“Dwi'n cofio pryd nesi ddeffro, nesi weld y presanta a nesi agor nhw efo mam a dad,” meddai Mili.
“Wel hoff liw fi ydi glas ac oni licio gwisgo fyny yn y fo, ac oedd yn neud fi deimlo fel tywysoges go iawn.
"Oedd o efo pili-palas a hefyd roedd bow yn y cefn efo 'chydig o liw gwyn ynddo fo. Mi oedd hi’n hir hir hir."
'Mae ‘na blant dal yna'
Mae rhaid i Mili fynd nôl i Alder Hay yn gyson er mwyn i feddygon gadw llygaid ar ei harennau.
Ond roedd yr ymweliad diwethaf yn un mwy pwysig na’r arfer i Mili gan ei bod hi wedi danfon y ffrog yr un pryd.
“Pryd esi i’r appointment ar Dachwedd 25 esi yna i roi'r ffrog.
“Mae’na blant dal yna, pryd oni yna yn rhoi'r ffrog oni’n gweld mamau a thadau plant erill yn mynd i weld nhw.”
Ychwanegodd Mili bod rhoi'r ffrog wedi gwneud iddi “deimlo yn hapus a chlên".
Mae Mili yn edrych ymlaen at gael gwybod pwy dderbyniodd y “ffrog arbennig” y Nadolig hwn.
“Dwi’n gobeithio y bydd rhywun yn gwisgo’r ffrog, a dwi’n gobeithio bydda nhw yn rili licio'r ffrog.”