Newyddion S4C

Y byd yn paratoi at yr ail Nadolig dan gyfyngiadau Covid-19

Newyddion S4C 23/12/2021

Y byd yn paratoi at yr ail Nadolig dan gyfyngiadau Covid-19

Mewn gwledydd ar draws y byd mae amrywiolyn Omicron yn lledaenu'n gyflym.

O ganlyniad, mae nifer o wledydd fel yng Nghymru yn cynyddu'r broses o ddosbarthu'r brechlyn atgyfnerthu ac wedi cyflwyno mesurau ychwanegol.

Mae cyfnod clo bellach wedi dechrau yn Yr Iseldiroedd yn sgil lledaeniad amrywiolyn Omicron.

Bydd tafarndai a lleoedd cyhoeddus ar gau tan ganol mis Ionawr o ganlyniad a dim ond dau berson fydd yn cael ymweld â chartrefi pobl.

Mae Heulwen Trienekens yn byw yn Utrecht a dywedodd wrth Newyddion S4C ei bod hi'n amau a fydd pobl yn dilyn y rheolau.

"Dwi jyst ddim yn gwybod ydy pobl yn mynd i neud hyn i ddweud y gwir," meddai.

"Fi'n nabod pobl sydd ishe mynd i weld eu mam-gu a thad-cu ac mae plant bach 'da nhw, ac rwy'n siŵr bydd nhw jyst yn neud hynny.

"Mae rhai pobl yn itha crac am beth sy'n digwydd, lot o bobl byswn i'n gweud. Ac mae rhai pobl jyst yn derbyn e achos dydy e ddim yn neud gymaint o wahaniaeth iddyn nhw. Ie mae'n amrywio fel mae pobl yn ymateb byswn i'n gweud."

'Cymryd y trydydd brechiad'

Mae'r cyfyngiadau wedi eu tynhau mewn gwledydd ar draws Ewrop wrth i amrywiolyn Omicron ledaenu, ond nid oes bwriad i wneud hynny yn Ffrainc am y tro.

Mae'r Arlywydd Macron yn gobeithio y bydd y brechlynnau atgyfnerthu yn golygu na fydd angen ail-gyflwyno mesurau llym.

Serch hynny, mae Ffrainc wedi cyflwyno cyfyngiadau teithio ar gyfer pobl sy'n teithio o'r Deyrnas Unedig gan olygu na fydd teulu Nia Gachon yn gallu teithio ati dros y Nadolig.

Dywedodd Nia: "Yn Ffrainc mae'r llywodraeth yn trial cael pobl i gymryd y trydydd brechiad.

"Ond does 'na ddim cyfyngiadau o'r llywodraeth ar y funud. Mae jyst cynghori i beidio bod yn rhy ormod o bobl dros y Dolig, dros y flwyddyn newydd.

"Odd fy nheulu am ddod drosodd o Gymru i Ffrainc, ond rhag ofn i'r cyfnod clo ddod i lawr a bod nhw'n stuck either yn Ffrainc neu fi yn wlad chi, mae pethau 'di gael ei ganslo.

"Dim ond pobl Ffrainc sy'n cael dod i mewn i Ffrainc o Brydain Fawr, os oes gyda nhw rheswm pwysig. Felly bydd rhaid iddo gael ei ohirio tan dro nesa'."

'Pobl yn becso'

Ond mae achosion o'r coronafeirws hefyd ar gynnydd y tu hwnt i ffiniau Ewrop.

Yn Israel mae panel o arbenigwyr wedi argymell darparu pedwerydd dos o'r brechlyn ar gyfer pobl dros 60 oed a gweithwyr iechyd.  

Dywedodd Sarah Idan sy'n byw yn Jerwsalem yn Israel: "Mae rhifau yn mynd lan, ond 'da nhw ddim yn agos o gwbl i beth fi 'di clywed sy'n digwydd ym Mhrydain, yn America.

"'Dy o ddim y variant mwya' dal yn Israel, ond ma' bobl yn becso. Dwi'n credu bydd pobl yn awyddus iawn i neud.

"Ond ar y llaw arall dwi'n credu bod dechrau bod ryw fath o deimlad gan lot o bobl bod ni'n mynd i orfod neud hyn trwy'r amser a bod y variations trwy'r amser, a bod y brechlyn yn dechrau ddim gweithio."

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi rhybuddio bod Omicron yn mynd i arwain at gynnydd mewn achosion ar draws Ewrop gan arwain at bwysau ychwanegol ar wasanaethau iechyd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.