Rwsia ac Wcráin: 'All rhyw flashpoint bach greu rhyfel llawer gwaeth na ydyn ni wedi ei weld o’r blaen'
Rwsia ac Wcráin: 'All rhyw flashpoint bach greu rhyfel llawer gwaeth na ydyn ni wedi ei weld o’r blaen'
“Rydyn ni mewn sefyllfa ble all rhyw flashpoint bach greu rhyfel llawer gwaeth na ydyn ni wedi ei weld o’r blaen.”
Dyna rybuddiodd y cyn uwch-gapten yn y Fyddin Brydeinig Alan Davies mewn cyfweliad arbennig gyda Newyddion S4C.
Wrth i Rwsia osod byddin o rhwng 90-100,000 o filwyr ar hyd y ffin rhyngddynt a’r Wcráin, mae llygaid y byd wedi’u hoelio ar y sefyllfa fregus.
Mae llawer o wybodusion fel Alan Davies yn ofni y gallai digwyddiad bach waethygu’r sefyllfa gan ddechrau rhyfel.
Ond mae eraill yn gobeithio y bydd cadoediad yn digwydd gyda’r ddwy wlad yn ogystal â gwledydd Nato yn cynnal trafodaethau er mwyn arbed rhagor o dywallt gwaed.
Bygythiad
Mae Alan Davies yn amau os yw’r grym a’r gallu milwrol gyda gwledydd y gorllewin a Nato i wrthsefyll grymoedd Rwsia a’u bod, felly “yn gadael y drws yn agored i Putin wneud beth mae e yn moyn ei wneud.”
Dywed Alan Davies: “Mae’n amhosibl i feddwl fod unrhyw symudiad o’r Wcráin at Rwsia felly, does dim rheswm o gwbl pam mae angen dros 90,000 o filwyr mor agos i’r ffin a ydyn nhw.
‘Bygythiad enfawr i’r Wcráin yw hynny; bygythiad enfawr hefyd i weddill gwledydd gorllewin Ewrop a Nato yn benodol ac felly mae’n amlwg fod yna ddiddordeb milwrol gan Rwsia a synnwn i ddim gweld y sefyllfa yn gwaethygu yn ystod y dyddiau neu wythnosau nesaf.
“Does yna ddim dyddiad penodol (ar gyfer tebygolrwydd o ymosodiad gan Rwsia ar yr Wcráin) ond os oeddwn i yn paratoi unrhyw ymosodiad, byddwn i yn moyn mantais o surprise ac edrych hefyd pryd mae’r gelyn yn fwyaf gwan efo’u paratoadau.
Ffiniau
“Yr amser dros y Nadolig dwi’n gweld yn beryglus iawn; synnwn i ddim os na welwn ni rhywbeth yn datblygu yn ystod y dyddiau yn go agos neu ar ôl y Nadolig.”
Meddai: “Mae’r bygythiad i’r Wcráin yn un ofnadw. Mae o yn mynd i ddechrau yn fach . . . mae ymladd wedi bod yn yr Wcráin ers blynydde . . . y separatists sy moyn gadael yr Wcráin ac ail-ymuno a Rwsia yn cael eu cefnogi gan Rwsia i wneud y fath beth – i greu y tensiwn a’r hyn a llall.
“Mae diddordeb gan Rwsia wastad i ymestyn eu ffiniau . . . ac mae’n rhaid iddi gofio taw 30 mlynedd yn ôl i’r wythnos yma nathon ni weld diwedd yr Undeb Sofietaidd.
“Mae Putin moyn ail-ddatblygu rhyw fath o gylch o amddiffyn o’i gwmpas e; tir o gwmpas Rwsia i’w amddiffyn – a hefyd mae o’n gweld bod y Gorllewin yn wanach nag erioed.
“Dwi ddim yn gweld unrhyw ffordd y mae’r Almaen, er enghraifft, yn mynd i ymateb yn filwrol . . . yn erbyn be mae e’n moyn gwneud ar hyn o bryd.
“Felly rydyn ni mewn sefyllfa ble all rhyw flashpoint bach greu rhyfel llawer gwaeth na ydyn ni wedi ei weld o’r blaen.”
Ychwanegodd: “Mae Putin yn coelio yn hanes Rwsia a’r Undeb Sofietaidd heb amheuaeth ac mae e moyn cael tirwedd ‘nol. Mae e wedi dangos hynny yn y Crimea yn barod sawl blwyddyn yn ôl. Felly, synnwn i ddim os nad yw’n moyn gwneud yr un peth eto,
“Fe fydd yn penderfynu pryd mae hynny’n digwydd ond mae’n rhaid inni gofio hefyd mae tu ôl i hyn hefyd – mae bygythiadau eraill ganddyn nhw gyda Rwsia yn rheoli faint o nwy sy’n mynd i mewn i’r Almaen a faint o nwy sy’n dod i mewn i wledydd Ewrop.
“Mae yna rym economaidd gyda fe ar hyn o bryd ond y bygythiad milwrol sydd yn poeni fi yn ystod y misoedd nesaf.”
"Os ydyn ni yn gweld rhywbeth ar y gorwel – yna mae’n rhaid paratoi – dyna pam mae Prif Weinidog Lithuania wedi gofyn heddiw i Nato arfogi mwy o filwyr yn yr Wcráin; y diffyg yw mae nifer y milwyr sydd ar gael yn y Gorllewin ar hyn o bryd, ac yn Nato ar hyn o bryd, wedi disgyn yn aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
“Dwi’n amau os yw’r grym a’r gallu milwrol gyda ni ar hyn o bryd i roi nifer sylweddol o filwyr mewn.
“Hefyd, mae’n rhaid cofio bod Ben Wallace, yr Ysgrifennydd Amddiffyn, wedi dweud nad ydio’n rhagweld y byddwn ni yn rhoi'r milwyr yn y Wcráin inni wneud y fath beth . . . felly rydyn ni yn gadael y drws yn agored i Putin wneud beth mae e yn moyn ei wneud.”