Cyngor Powys i beidio â bwrw ymlaen ag ymgynghoriadau i gau tair ysgol

21/12/2021
Bro Cynllaith

Mae Cabinet Cyngor Sir Powys wedi cytuno i beidio cynnal ymgynghoriadau i gau tair ysgol gynradd yng ngogledd y sir.

Yn gynharach eleni, cytunodd y Cabinet i ddechrau'r broses statudol i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanfechain, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn ac Ysgol Bro Cynllaith.

Y bwriad oedd datblygu "achos cyfiawnhad busnes" ar gyfer estyniad newydd i Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llansantffraid gyda'r bwriad o gael capasiti ychwanegol o 90 lle yn yr ysgol yn y pen draw.

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd y cyngor fod y Cabinet wedi clywed fod astudiaeth yn edrych ar ymestyn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llansantffraid wedi "codi pryderon ynghylch a oedd estyniad yn ymarferol ar y safle presennol".

Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Eiddo: "Mae'n amlwg o ganfyddiadau'r astudiaeth ddichonoldeb a'r achos cyfiawnhad busnes nad ydym yn gallu datblygu estyniad i Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llansantffraid.

"Oherwydd y canfyddiadau hyn, rwy’n argymhell i'r Cabinet i beidio â bwrw ymlaen â'r estyniad i Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llansantffraid ac i beidio â bwrw ymlaen a’r ymgynghoriad arfaethedig ar gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanfechain, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn ac Ysgol Bro Cynllaith.

Argymhellais hefyd eu bod yn cyfarwyddo'r Tîm Trawsnewid Addysg i ddod â chynigion eraill ar gyfer Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanfechain, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn ac Ysgol Bro Cynllaith yn ddi-oed."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.