Newyddion S4C

Rownd o golff yn gorffen â Jaguar o'r 60au i ddyn o Landeilo

30/12/2021

Rownd o golff yn gorffen â Jaguar o'r 60au i ddyn o Landeilo

Cafodd dyn o Sir Gaerfyrddin sioc enfawr yn ystod gêm o golff ar ôl darganfod ei fod wedi ennill car o'r 1960au.

Roedd y car wedi ei roi fel gwobr gan y cyflwynydd Chris Evans a'r ŵyl geir Carfest ar gyfer cystadleuaeth Plant Mewn Angen.

Roedd Kevin Taylor o Landeilo yng nghanol gêm o golff pan ddaeth i wybod ei fod wedi ennill Jaguar Mark II o 1965.

"Roeddwn i ar y 18fed, ar fin gorffen fy ngêm, cymryd ail shot ac roedd hi'n well imi ateb e," meddai Kevin.

"Yn y diwedd dywedodd [y person o Blant mewn Angen], 'mae gen i'r pleser o ddweud eich bod wedi ennill y Jaguar yng nghystadleuaeth Blant mewn Angen'.

"Gofynnodd hi pe bai'n gallu cymryd mwy o fanylion.  'Ga i ffonio chi 'nôl?', ofynnais i, 'Dwi ar fin gorffen fy ngêm o golff yma."

Bob blwyddyn, mae Plant Mewn Angen yn codi arian at brosiectau sy'n cefnogi plant a phobl ifanc difreintiedig ar draws y Deyrnas Unedig gan gynnwys nifer yng Nghymru.

'Lot o sbri'

Mae'r car - a gafodd ei uwchraddio yn 2014 - wedi ei gadw mewn garej aelod o deulu Kevin a'i bartner Nia am y tro.

Yn ôl Nia, sy'n rhedeg siop flodau yn y pentref, mae'r gymuned wedi bod yn gefnogol iawn.

"Ma' bobol wedi bod yn grêt, wastad wedi bod yn hapus drosto ni a ni 'di cael lot o sbri hefyd i feddwl mai ni sy' 'di ennill e, yn byw yn Llandeilo, dim garej, 'sdim off-road parking 'da ni hyd yn oed," meddai. 

"So ma'r peth wedi bod yn lot o sbri ond 'yn ni'n lwcus iawn bod 'da ni aelod teulu sydd yn digwydd bod â garej sbâr ac mae e'n gorfod edrych ar ôl y car i ni nawr."

Image
Kevin Car
Roedd Kevin Taylor yng nghanol gêm o golff pan ddaeth i wybod ei fod wedi ennill y Jaguar.

Bu Kevin ar orsaf Virgin Radio ar ôl ei fuddugoliaeth yn siarad gyda Chris Evans ar ei raglen.

"'Gwell siawns na'r Loteri Genedlaethol', meddwn i, felly es i amdani ac mae e i gyd yn mynd at achos da beth bynnag felly doedd dim ots gen i golli £10 am hynny a chyda hynny dyma fe," dywedodd Kevin.

Ychwanegodd Nia: "Ond o'dd y profiad o siarad â Chris yn un arbennig iawn achos mae e mor naturiol a mor normal gyda ni ac y ffaith bod Kev yn cael cyfle i fod ar Virgin Radio hefyd wedi bod yn ffantastig.

"Y ffaith bod Chris Evans wedi gyrru fe, mae e'n ddigon i fod yn rhywbeth arbennig iawn i fod yn hollol onest."

"Mae e'n gar lyfli, mae e'n gar real olygus fi'n credu, mae e'n dod â gwen i'n wyneb i bob tro dwi'n edrych arno fe ond sai'n siŵr beth yw dyfodol y car eto ond yn sicr yn enjoio fe ar hyn o bryd beth bynnag".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.