Aelod Seneddol Pen-y-bont Jamie Wallis yn destun ymchwiliad gan yr heddlu

Nation.Cymru 19/12/2021
Yr aelod seneddol Jamie Wallis

Mae swyddfa’r aelod seneddol Ceidwadol dros Ben-y-bont Jamie Wallis wedi cadarnhau ei fod yn “helpu’r heddlu gyda’i ymholiadau”.

Mae hyn yn dilyn digwyddiad yn Llanbleddian, Bro Morgannwg ychydig wedi 01.00 ddydd Sul 28 Tachwedd.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod dyn 37 oed o’r Bontfaen wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.

Mae neges ar dudalen Facebook yr aelod seneddol yn nodi bod syrjeri ddydd Sadwrn wedi ei ganslo tan y flwyddyn Newydd oherwydd bod Mr Wallis wedi profi’n bositif am Covid-19.

Darllenwch y stori yn llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.