Ergyd i Boris Johnson wrth i weinidog Brexit ymddiswyddo o’i gabinet

Mae'r gweinidog Brexit yr Arglwydd Frost wedi ymddiswyddo o lywodraeth Boris Johnson.
Fe oedd wedi arwain trafodaethau'r DU dros y cytundeb o dynnu nôl o’r Undeb Ewropeaidd a phrotocol Gogledd Iwerddon.
Mewn llythyr i Mr Johnson, dywedodd yr Arglwydd Frost gan fod ‘Brexit nawr yn ddiogel’ roedd ganddo “bryderon am gyfeiriad y daith bresennol".
Yn ôl papur y Mail on Sunday, rhoddodd ei ymddiswyddiad wythnos yn ôl, yn rhannol oherwydd cyfyngiadau Covid.
Darllenwch y stori'n llawn yma.