
Cysylltu gyda’r person ‘wnaeth fy nghadw yn fyw’
Cysylltu gyda’r person ‘wnaeth fy nghadw yn fyw’
Cafodd Gareth Fôn Jones o Gaernarfon “yr anrheg Nadolig orau erioed” eleni sef sgwrs WhatsApp gyda'i roddwr mer yr esgyrn.
Yn 2016 cafodd Gareth ddiagnosis o ganser y gwaed a mer yr esgyrn. Bellach mae’n glir o ganser, ond yn gyfrifol am hynny mae’r trawsblaniad a gafodd ym mis Medi 2016.
Dywedodd Gareth ei fod yn “falch” ei fod wedi cael cyfle i ddiolch i’w roddwr sy’n byw yn yr Almaen a achubodd ei fywyd.
'Rhyw 18 mis oedd gen i fyw’
Ar ôl cael trafferth yn cerdded fyny’r grisiau a bod yn fyr o anadl aeth Gareth am brofion cyn cael diagnosis o ganser.
“Wnaethon nhw ddweud, fel o’n i, mai rhyw 18 mis oedd gen i fyw, heblaw mod i’n cael trawsblaniad mer yr esgyrn,” meddai.
“Wedyn oeddan nhw’n edrych am 'match'. Yn gyntaf, oeddan nhw’n edrych yn y teulu, oedd fy chwaer yn 10 allan o 10 ac yn 'match' ond oedd yna broblemau efo ei gwaed hi.
Drwy elusen yr Anthony Nolan Trust, cafwyd hyd i ddyn 32 oed o’r Almaen oedd yn ‘match’ i Gareth.
Roedd y trawsblaniad yn un llwyddiannus, ond roedd y "broses hir".

“Oedd gen ti gymaint o risks efo’r driniaeth mewn ffordd, o’n i’n gorfod hunan-ynysu yn y stafell ’ma am 5 wythnos oherwydd oeddan nhw yn lladd mer yn esgyrn i felly doedd gen i ddim byd i atal rhag unrhyw afiechydon so oedda chdi’n gorfod bod yn hynod o ofalus," meddai Gareth.
“Oedd hi’n dipyn o broses; gymrodd hi tua 2 flynadd i'n nghorff i ddod at ei hun ac wedyn oedd rhaid aros yn tŷ am fisoedd wedyn rhag ofn i chdi ddal rhywbeth ac yn blaen.”
‘To my genetic twin’
Ychydig dros bum mlynedd yn ddiweddarach mae Gareth wedi cysylltu gyda’r rhoddwr o’r Almaen wnaeth “rhoi ail gyfle mewn bywyd” iddo.
Ar ôl derbyn cerdyn Nadolig gyda’r neges ‘to my genetic twin’ gan y rhoddwr tair blynedd yn nôl, aeth Gareth ati i chwilio am ffordd o gysylltu ag ef drwy’r Anthony Nolan Trust.
“Ges i wybod wythnos dwytha fod y person yn fodlon rhoi ei fanylion ac yn y blaen ac oedd o fyny i fi i neud y cyswllt gynta.
“Y noswaith honno fe wnes i yrru neges ar WhatsApp a ges i ateb yn syth, wedyn fuon ni yn siarad drwy negeseuon am ddwy awr mewn ffordd. Oedd hynny yn hynod o ddiddorol.”
‘Yr anrheg Nadolig orau erioed’
Yn ôl Gareth, roedd y profiad o siarad gyda’i roddwr yn un fwy emosiynol na’r disgwyl.
“Mae mywyd i mor ddyledus iddo fo ac oedd o’n deimlad od meddwl mai mer ei esgyrn o sy’n fy nghadw i’n fyw, ac mae ngwaed i mewn ffordd wedi mynd run fath a’i waed o, oedd hynny’n od."

“Heblaw amdano fo faswn i ddim yma heddiw yn neud y cyfweliad yma felly oedd hynna yn rwbath mawr," ychwanegodd.
“Oeddach di ddim yn medru stopio sgwrsio; gofyn lle oedd o’n byw, gofyn am ei deulu ac yn y blaen. O’n i’n falch iawn. Fatha wyt ti, ti’n meddwl sgwn i sut berson ydi o, sut mae o’n edrych, oes 'na debygrwydd yn mynd i fod ac oedd o’n reit braf sgwrsio.
“Unwaith oedda chi’n mynd mewn i sgwrs oedda chdi yn sgwrsio yn naturiol, doedd o ddim yn teimlo’n ddiarth, oeddach di jest yn ddiolchgar iddo fo mewn ffordd.
“Yr anrheg Nadolig orau erioed faswn i yn ei ddeud, llawn emosiwn a hefyd y cyffro; yr elfen o emosiwn a chyffro.”