Pryder am gynllun gwelliannau ffordd yng Ngheredigion.
Pryder am gynllun gwelliannau ffordd yng Ngheredigion.
Mae cynlluniau i wella'r A487 rhwng Aberystwyth ag Aberaeron yng Ngheredigion wedi derbyn beirniadaeth, gyda rhai yn ardal Llanrhystud yn dadlau y gall yr arian gael ei wario yn well.
Yn rhan o gynllun gwerth £6m, y bwriad yw creu cylchfan newydd a chreu lôn i oddiweddyd.
Yn siarad gyda rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Gareth Jones, sy'n ffermio ar dir ar naill ochr i'r ffordd, ei fod yn bryderus sut y gallu ei fusnes "gario mlaen" fel mae pe byddai'r cynlluniau'n mynd yn eu blaen .