
Hwblyn: Gair ieuengaf y Gymraeg?
Mae’r Cymry Cymraeg yn rai sydd wedi bod yn brysur iawn wrth fathu geiriau newydd ar hyd y canrifoedd.
Ac mae cyfnod y pandemig wedi ein cyflwyno i eiriau gwbl newydd a rhai nad oedd yn cael eu defnyddio llawer o gwbl cyn 2020.
Boed yn gyfnod clo, hunanynysu, ffyrlo neu Omicron – mae 'na sawl air newydd sydd bellach yn rhan o’n geirfa pob dydd.
Ond mae un gair newydd, sydd eto i’w sefydlu’n swyddogol, wedi ennyn cryn ymateb dros yr wythnosau diwethaf.
'Hwblyn neu brechlyn atgfynerthu?'
Mae ‘hwblyn’ yn air arall am frechlyn atgyfnerthu, ac fe gafodd ei fathu gan y meddyg teulu o Wynedd, Dr Eilir Hughes.
Mae Dr Hughes wedi bod yn gyfrifol am arwain y cynllun brechu o’r feddygfa mae’n bartner ynddi, Tŷ Doctor yn Nefyn.
Pigiad atgyfnerthu neu frechiad atgyfnerthu sy’n cael ei adnabod yn swyddogol ar Byd Term Cymru.

Wrth gyhoeddi’r gair newydd i’r cyhoedd am y tro cyntaf ym mis Tachwedd, dywedodd: “Wedi cael llond bol ar ddweud ‘bŵstyr’”.
Cafodd y gair newydd anedig ei groesawu gan nifer, gyda rhai yn ei ddisgrifio fel “ardderchog”, neu yn dweud “licio ‘hwblyn’”.
Roedd rhai yn llai sicr, gydag un defnyddiwr Twitter yn dweud: “Hwblyn?! O naaaaa. Brechiad/ Dôs atgyfnerthol yn ormod o lond ceg??”
Cafodd 2000 o bobl hwblyn yn Nefyn y penwythnos yma.
— Eilir Hughes (@hughes_eilir) November 7, 2021
Two thousand people got a booster vaccine in Nefyn this weekend.
Diolch i bawb wnaeth ein helpu 🙏🏻 pic.twitter.com/zPGaw0qutr
Dywedodd un arall: “Rydw i’n cytuno’n llwyr â thynnu sylw tuag at y ffaith fod ieithoedd yn esblygu’n gyson, ond rwy’n tynnu llinell gyda ‘hwblyn’. Gallai ddim.”
Fe fentrodd yr awdur Marion Loeffler i alw ar y Geiriadur Prifysgol Cymru i gynnwys y hwblyn i’r casgliad geiriau.
Gofynnodd: “Hoffi’r gair hwblyn, a gobeithio cael fy hwblyn i’n fuan. @geiriadur a geiff e fynediad?”
Erbyn hyn mae’r gair wedi cael sylw yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
Yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, y Llywydd Elin Jones oedd y diweddaraf i ddweud y bydd y gair ‘hwblyn’ yn ymddangos yn y geiriadur Cymraeg.
Gan nodi 100 mlynedd union ers sefydlu Geiriadur Prifysgol Cymru, dywedodd y Llywydd: “Dwn i ddim beth yw’r gair hynaf yn yr iaith Gymraeg, ond licsen i fentro mai’r gair ieuengaf y Gymraeg yw hwblyn.
“Gair newydd am booster a gafodd ei fathu ar Twitter yn yr wythnosau diwethaf gan Dr Eilir Hughes.
“Gair a fydd yn ymddangos yn y geiriadur yn y dyfodol agos rwy’n siŵr.”

Mae rhai o gyd aelodau Plaid Cymru Elin Jones wedi mabwysiadu’r gair hefyd, gan gynnwys yr Aelodau Seneddol dros Arfon a Dwyfor Meirionnydd, Hywel Williams a Liz Saville-Roberts.
Hyd yma, nid yw’r gair wedi ei fabwysiadu gan y rhai sydd mewn grym yng Nghymru.
Yn hytrach, brechlyn neu bigiad atgyfnerthu sy’n cael ei ddefnyddio gan y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan, a gan y Prif Weinidog Mark Drakeford.
Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn eiriadur sy’n rhoi diffiniad disgrifiadol a hanesyddol i eiriau, gan ddefnyddio tystiolaeth o wahanol ffynonellau hanesyddol a chyfoes.
Ers 2014 mae cannoedd o enwau newydd wedi eu hychwanegu i’r geiriadur, gyda Cawsionyn, Disel a Hunlun ymhlith y rhai mwyaf diweddar.
Nid yw’r cynnwys wedi ei ddiweddar ers Mawrth 2020, felly bydd yn rhaid i Gymry, a Dr Hughes, aros beth amser eto i ddarganfod os bydd hwblyn yn ennill ei le.