AJ Odudu allan o rownd derfynol Strictly Come Dancing oherwydd anaf

Mae AJ Odudu a'i phartner, Kai Widdrington, wedi tynnu allan o rownd derfynol Strictly Come Dancing nos Sadwrn ar ôl iddi anafu ei throed.
Dywedodd Odudu: "Rwy'n gofidio'n fawr nad ydw i'n gallu perfformio yn y rownd derfynol oherwydd ligament toredig yn fy ffêr dde.
"Mae dysgu dawnsio dros y 13 wythnos diwethaf wedi bod yn anrhydedd anhygoel ac i'w wneud ochr yn ochr â rhywun mor arbennig, amyneddgar a Kai yn rhywbeth y byddaf yn ei drysori am byth.
Peace out @bbcstrictly ✌️It's been a blast. pic.twitter.com/x04e5DLB7V
— AJ ODUDU (@AJOdudu) December 17, 2021
"Diolch i'r teulu Strictly am y profiad, y tîm meddygol am geisio fy nghael yn ôl ar fy nhraed ac yn bennaf, i bawb gartref am wylio a chefnogi."
Mwy am y stori yma.