Diffyg ffydd yn yr heddlu yn 'bryder cenedlaethol'
Mae diffyg ffydd yn yr heddlu yn "bryder cenedlaethol", yn ôl Prif Gwnstabl newydd Heddlu Dyfed-Powys.
Fe ddechreuodd Dr Richard Lewis yn ei rôl newydd gyda'r llu lle ddechreuodd ei yrfa wythnos diwethaf.
Dywedodd wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru nad oedd yr un heriau yn wynebu llu Dyfed-Powys ac sydd wedi wynebu Heddlu'r Met yn ddiweddar.
"‘Yn ni’n ffodus yn gorllewin Cymru ac yn canolbarth Cymru, dyw e ddim y fath o bethau ni ‘di gweld yn Llundain wrth gwrs.
"Ond mae’r agenda cenedlaethol pwysig o trais yn erbyn merched ifanc a menywod yn rhywbeth byddwn ni yn blaenoriaethu yma yn Dyfed-Powys dros y flwyddyn nesa’."
Ymddiried
Cafodd pryderon am ddiogelwch menywod a chwestiynau am ymddiriedaeth yn yr heddlu eu crybwyll yn sgil llofruddiaeth Sarah Everard.
Cafwyd cyn-heddwas gyda Heddlu'r Met, Wayne Couzens, yn euog o'i llofruddio ac fe gafodd Couzens ei ddedfrydu i oes dan glo ddiwedd mis Medi.
Dywedodd Dr Lewis y bydd Heddlu Dyfed-Powys yn gweithio i sicrhau bod pobl yn gallu ymddiried yn y llu.
"Byddwn ni’n gweithio’n galed fan hyn i ‘neud yn siŵr bod pobl yn deall bo nhw yn gallu ymddiried ynom ni yma yng Nghymru ac yn sicr yn Dyfed-Powys," meddai.
"Mae'r broblem o drais yn erbyn merched ifanc a menywod yn un genedlaethol ac mae’n bwysig bo ni yn canolbwyntio ar ein gwaith yma yng Nghymru, bod ein heddweision, a’n staff, a’n gwirfoddolwyr unwaith eto mas yn ein cymunedau’n adeiladu ein partneriaeth ar yr hyn ‘yn ni’n ‘neud gyda’n cymunedau."