Cadarnhau Verstappen yn bencampwr byd Formula One ar ôl i Mercedes beidio apelio’r canlyniad

Mae Max Verstappen o dîm Red Bull wedi ei gadarnhau yn bencampwr byd Formula One.
Mae tîm Lewis Hamilton, Mercedes wedi penderfynu peidio ag apelio yn erbyn canlyniad ras ola’r tymor yn Abu Dhabi ddydd Sul.
Fe gipiodd Verstappen o’r Iseldiroedd y teitl ar lap olaf y Grand Prix ar ôl iddo lwyddo i osod ei hun tu ôl i Hamilton wedi i’r car diogelwch ddod i’r trac.
Gwrthodwyd protest Mercedes, tîm Lewis Hamilton, yn erbyn y canlyniad nos Sul a chadarnhawyd Verstappen yn bencampwr.
Ond dywedodd Mercedes eu bod yn bwriadu apelio’r penderfyniad, gyda’r amser cau i wneud hynny nos Iau.
Ychwanegodd Toto Wolff, arweinydd tîm Mercedes nad oedd yn sicr a fyddai Hamilton yn parhau yn Formula One gan ei fod yn dal ‘mewn poen’ a fyddai ‘byth yn dod dros’ yr hyn ddigwyddodd.
Lewis, you are the greatest racer in the history of Formula 1 and you drove your heart out for every lap of this incredible season.
— Mercedes-AMG PETRONAS F1 Team (@MercedesAMGF1) December 16, 2021
You're a flawless sportsman on and off the track and you delivered a faultless performance. pic.twitter.com/fCCmO0qwkj
Pan ofynnwyd i Verstappen sut oedd yn teimlo ymhlith yr holl ansicrwydd, dywedodd “nad oedd yn meddwl amdan yr holl beth gymaint â hynny.
“Oherwydd rwy’n teimlo fel pencampwr y byd, does dim ots be fydden nhw’n drio ei wneud."
Dallenwch y stori yn llawn yma.