
Mei Jones: ‘Wedi rhoi ei oll i C’mon Midffîld’
Mei Jones: ‘Wedi rhoi ei oll i C’mon Midffîld’
Mae rhai o gyd-actorion y diweddar Mei Jones wedi awgrymu fod yr actor a’r awdur wedi “rhoi ei oll i C’mon Midffîld”.
Bu farw Mei Jones yn 68 oed ym mis Tachwedd. Roedd yn cael ei gofio’n bennaf am gyd-greu ac actio’r cymeriad Walter ‘Wali’ Thomas yn y gyfres.
Mewn rhaglen arbennig, Cofio Mei Jones, mae rhai o’i gyd actorion wedi dweud ei bod hi’n bechod nad oedd yr awdur, oedd yn wreiddiol o Fôn, wedi ysgrifennu mwy yn y blynyddoedd i ddilyn.

“Oedd o’n gallu sgwennu, ac mi oedd o’n glyfar iawn,” meddai John Pierce Jones, fu’n actio cymeriad Mr Picton yn y ddrama.
Ychwanegodd: “Mi oedd ‘na weledigaeth yna, ond yn anffodus welon ni ddim o hynny wedyn.
“A falle bod C’mon Midffîld wedi chwarae rhan yn ei farwolaeth o."
Pan ofynnwyd beth yr oedd yn ei olygu gyda’r sylwad yma, dywedodd Mr Pierce Jones fod Mei Jones wedi “colli ei hyder yn y diwedd”.
“Yr talent mawr ma oedd pawb yn ddweud oedd ganddo fo, oedd o’n meddwl – fedrai’m gwneud gwell na hyn.
“Ac mi oedd o’n ofn wedyn, ac ofn mentro, cofn fysa pawb yn edrych yn ôl ar C’mon Midffîld a’r llwyddiant gafodd o yn fanno.”

Yn un o gyfresi fwyaf poblogaidd a llwyddiannus S4C, fe enillodd Mei Jones, a chyd-grëwr C’mon Midffîld, Alun Ffred Jones wobr BAFTA Cymru ym 1993 am y Gyfres Ddrama orau.
Yn ôl Alun Ffred Jones, roedd Mei Jones wedi gweld cynhyrchu’r gyfres yn y cyfnod olaf yn “broses ofnadwy o anodd.”
'Roedd o'n fwy ansicr'
“Mi oedd o’n fwy ansicr,” meddai.
“Oedd y smocio a’r coffi di-ben-draw, a’r Fishermen’s Friend oedd o’n sipian drwy’r dydd yn dod yn fwy amlwg, ac roedd o’n fwy ansicr.”
Fe aeth Mei Jones ymlaen i ysgrifennu ac actio yn ddiweddarach, ond C’mon Midffîld oedd ei waith fwyaf adnabyddus trwy gydol ei oes.
Mae rhaglen Cofio Mei Jones ar gael i wylio ar wefan S4C Clic.