Banc Lloegr yn codi cyfraddau llog i 0.25%

Mae Banc Lloegr wedi penderfynu codi cyfraddau llog am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig er mwyn ceisio mynd i'r afael â chwyddiant.
Yn ôl The Guardian, mae'r pwyllgor polisi ariannol wedi pleidleisio o blaid cynyddu cyfraddau o 0.1% i 0.25%.
Mae swyddogion wedi wynebu pwysau i greu newid er mwyn lleddfu effeithiau costau byw cynyddol.
Yn ôl yr ystadegau mae chwyddiant yn cynyddu ar raddfa uwch na ddisgwylir gan gyrraedd 5.1% ym mis Tachwedd.
Targed y banc yw cadw chwyddiant i 2% neu'n is ond mae prisiau ynni uchel a phroblemau cyflenwi wedi achosi cynnydd sylweddol.
Darllenwch mwy yma.