'Fel gofalwr chi'n gallu teimlo'n isel ofnadwy ac yn ynysig'
'Fel gofalwr chi'n gallu teimlo'n isel ofnadwy ac yn ynysig'
Mae menyw o Gaerfyrddin a fu'n gofalu am ei mam am wyth mlynedd wedi dweud bod angen mwy o sylw ar y "straen meddyliol" sydd ar ofalwyr di-dâl.
Mae ymchwil newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dangos bod iechyd meddyliol a chorfforol gofalwyr di-dâl yn "waeth" na gweddill poblogaeth Cymru.
Yn ôl Rhian Glynn o Fronwydd ger Caerfyrddin, dyw pobl "ddim yn sylweddoli'r effaith meddyliol" sydd ar ofalwyr.
Bu'n rhaid i Rhian roi gorau i'w swydd er mwyn gofalu am ei Mam sydd yn byw gydag Alzheimer's.
'Teimlo'n isel ofnadwy'
Wrth siarad â Newyddion S4C ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, dywedodd Rhian: "O'n i'n exhausted o ran emosiynau ac yn gorfforol.
"Mae'r rôl ei hunan yn effeithio eich hyder chi eich hunan, chi'n gallu teimlo'n isel ofnadwy, ac ynysig hefyd.
"O'dd e jyst yn ormod o straen yn y diwedd ar ôl rhyw bedair blynedd o warchod Mam. Oedd yn rhaid i fi neud y penderfyniad i adael y gwaith."
Mewn cyfnod o ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru dros y ddegawd diwethaf, daeth y corff i'r casgliad bod gofalwyr di-dâl 1.8 gwaith yn fwy tebygol o gael diagnosis o orbryder ac/neu iselder hir-dymor.
Roedd gofalwyr di-dâl hefyd yn fwy tebygol o ddioddef cyflyrau iechyd corfforol fel cancr, problemau gyda'r cyhyrau a'r esgyrn, a syndrom coluddyn llidus.
Dywedodd Rhian ei bod yn dioddef o gyfnodau o flinder eithriadol.
"Rhai dyddiau, na' i gyd o'n i moyn neud oedd cysgu."
"O'n i'n gofalu am Mam, trial magu tri o blant, gweithio i'r heddlu. O'n i'n teithio dros Dyfed a Powys i gyd gyda 'ngwaith, odd pride da fi yn fy ngwaith." ychwanegodd.
"Odd yr Alzheimer's yn cymryd drosto rili, jyst hi'n anghofio pwy o'n i, anghofio pwy odd y plant. Nath hwnna dorri 'nghalon i."
Yn ôl ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd tua 700,000 o ofalwyr di-dal yng Nghymru yn ystod pandemig Covid-19. Roedd hyn yn gynnydd o tua 300,000 ers 2019.
Dywedodd Jiao Song, Prif Ystadegydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae ein canfyddiadau'n rhoi dealltwriaeth fanwl o iechyd ymhlith gofalwyr di-dâl yng Nghymru, yn enwedig sut y gall llesiant meddyliol gwael effeithio'n anghymesur ar grwpiau gwahanol, a sut y mae hynny'n wahanol yn ôl lefel y dwyster gofalu, cyrhaeddiad addysgol a statws cyflogaeth.
"Gellir defnyddio'r canfyddiadau hyn i helpu i lywio camau gweithredu ar draws sectorau i wella llesiant gofalwyr di-dâl," ychwanegodd.
Mae hyn yn cynnwys pwysigrwydd deall a chefnogi anghenion iechyd gofalwyr, a mynd i'r afael â rhwystrau i fynediad a chadw mewn addysg a chyflogaeth dda, deg.”
Yn ôl Rhian, mae angen codi ymwybyddiaeth am yr effaith meddyliol ar ofalwyr a'r gwaith sy'n eu wynebu o ddydd i ddydd.
"Ma rhai pobl falle'n meddwl am y gofalwr mwy fel y pethe mwya practical fel y helpu i olchi, helpu i fwydo, helpu gwisgo a pethe felly," dywedodd.
"Ond fi'n credu fel rhywun sy'n ofalwr i rywun ma nhw'n agos i neu'n rhan o deulu ac yn caru, ma lot o emosiynau ynghlwm y rôl.
'Llanw bwlch mawr'
Ychwanegodd Rhian bod angen i'r awdurdodau lleol a'r llywodraeth "gymryd mwy o sylw" o'r effaith meddyliol ar ofalwyr.
"Os chi'n cymryd y gofalwr allan o'r stori, ma rhaid i'r gwasanaethau stepo mewn yn gyflym iawn a fi'n credu ma cael gofalwyr llawn amser, adre, yn llanw gap mowr yn gwasanaethau sydd, yn enwedig ar y foment, yn brysur tu hwnt.
"Mae eisiau mwy o sylw wrth y Lywodraeth a cynghorau ar yr effaith na ar ofalwyr."
Ddydd Iau, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn ariannol gwerth £7m tuag at gefnogi gofalwyr di-dâl yng Nghymru.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan y bydd £5.5 miliwn i awdurdodau lleol i roi cymorth wedi’i dargedu ar gyfer gofalwyr di-dâl; £1.25m ar gyfer y Gronfa Gymorth i Ofalwyr; £20,000 i ariannu sesiynau cymorth a £230,000 ar gyfer Cronfa’r Teulu.
'Effaith corfforol ac emosiynol gofalu yn llethol'
Ychwanegodd, Julie Morgan: “Gall effaith corfforol ac emosiynol gofalu fod yn llethol. Rydym yn rhannu’r pryderon bod rhai wedi cyrraedd pen eu tennyn oherwydd y pwysau ychwanegol arnynt o ganlyniad i’r pandemig.
“Mae’r cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn dangos cymaint yw ein gwerthfawrogiad i’r fyddin o ofalwyr di-dâl yng Nghymru sydd wedi mynd yr ail filltir i ofalu am eu ffrindiau a’u teulu. Rydym yn ymrwymo i gynorthwyo gofalwyr i fyw eu bywyd yn ogystal â gofalu.”
“Mae gofalwyr di-dâl yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymdeithas, gan helpu i leihau’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd drwy sicrhau y gall pobl ddod adref o’r ysbyty a pheidio â dychwelyd yno. Mae eu gwaith eithriadol a’u cyfraniad i ofal cymdeithasol yn rhan o becyn gwerth £42m i gefnogi cynllun y gaeaf ar gyfer y GIG.”
Erbyn hyn, mae Jean, mam Rhian, mewn cartref gofal ac mae Rhian bellach yn gweithio gyda gofalwyr eraill gan gynnig cefnogaeth a chyngor yn ardal Caerfyrddin.
Dywedodd: "Ni ddim fel gofalwyr wedi deall pa mor bwysig ma'r rôl a faint o bwrpas sydd i'r rôl pan chi ynddo fe.
"Fi nawr yn gweithio gyda'r Carer's Trust yn yr ardal yma a fi nawr yn trial bod yn glir i ofalwyr dw i'n edrych ar ôl pa mor bwysig mae eu rôl nhw, a pha mor bwysig mae eu iechyd nhw.
"Ma nhw'n ymdopi. "I'm coping" na be fi'n clywed yn aml yn y gwaith."