Newyddion S4C

Kelly Lee Owens yn ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2021

23/11/2021
x

Mae’r cerddor a'r cynhyrchydd electronig Kelly Lee Owens wedi ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2021.

Gyda'i halbwm Inner Song, mae'r artist 33 oed o Fagillt, Sir y Fflint, wedi ennill 11eg wobr y gystadleuaeth, gan dderbyn y gronfa gyntaf erioed o £10,000.

Dewisodd panel o arbenigwyr yn y diwydiant cerddoriaeth yr enillydd o restr fer o 12 albwm, gan artistiaid a bandiau o bob cwr o Gymru.

'Yr anrhydedd mwyaf'

Wrth dderbyn ei gwobr dros Zoom, dywedodd Kelly: “Mae'n teimlo'n anhygoel. Fel artist o Gymru, cael eich cydnabod gan eich gwlad, i mi yn y pen draw, yw'r anrhydedd mwyaf. Rydw i mor angerddol am Gymru ac rydw i eisiau i bawb wybod o ble rydw i'n dod.

“Rwy’n cofio’r tro diwethaf pan gefais fy enwebu, daeth fy nana Jeanette i lawr ac ers hynny mae hi wedi marw a byddai hi wrth ei bodd, mae’n ddrwg gen i fy mod i’n emosiynol - ond mae hi ar yr albwm a byddai hi mor falch. Diolch yn fawr iawn."

Ychwanegodd Kelly: “Mae Cymru wedi cael amser caled, fel ym mhobman gyda'r coronafeirws, felly byddwn i wrth fy modd yn rhoi rhywfaint ohono [yr arian] i rai elusennau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.”

Cafodd y gwobrau eu cynnal yn The Gate, Caerdydd gyda'r cyflwynydd radio Huw Stephens a'r ymgynghorydd cerdd John Rostron.

Y beirniaid wedi 'eu syfrdanu'

Dywedodd Huw Stephens, cyd-sylfaenydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig: “Rydyn ni wrth ein boddau â Kelly Lee Owens. Cafodd y beirniaid i gyd eu syfrdanu gan yr albwm hwn. Mae Kelly Lee Owens wedi derbyn clod mor gymeradwy am y record hon, ac rydym mor hapus mai hi ydy enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2021.

“Rydyn ni hefyd wrth ein bodd bod Cymru Creadigol yn rhoi’r wobr o £10,000 - mae hyn yn nodweddiadol o’r sîn gerddoriaeth gynnes, gefnogol yng Nghymru.

“Mae cerddoriaeth o Gymru yn amrywiol, ac o ansawdd syfrdanol.”

Y 12 a gyrhaeddodd rownd derfynol gwobrau 2021 oedd: Afro Cluster, The Anchoress, Carwyn Ellis & Rio 18, Datblygu, El Goodo, Gruff Rhys, Gwenifer Raymond, Kelly Lee Owens, Mace The Great, Novo Amor, Private World a Pys Melyn.

Wrth siarad am eu cefnogaeth i Wobr Gerddoriaeth Gymreig a'r gronfa wobr agoriadol, dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr Creadigol Cymru, Gerwyn Evans: “Mae Cymru Creadigol yn falch o gefnogi Gwobr Gerddoriaeth Gymreig am y drydedd flwyddyn yn olynol. Mae'n gyfle gwych i arddangos amrywiaeth y genres ac artistiaid sy'n gwneud cerddoriaeth mor gyffrous yng Nghymru heddiw.

“Mae Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn ddathliad ac yn gydnabyddiaeth o ragoriaeth a chreadigrwydd mewn cerddoriaeth Gymreig - a hoffwn longyfarch Kelly Lee Owens ar gael ei henwi fel yr enillydd ac rwy’n hyderus y bydd y gronfa wobr yn cyfrannu at lwyddiant yn y dyfodol.”

Bellach mae Kelly Lee Owens yn ymuno â rhestr o enillwyr sy'n cynnwys Deyah (2020), Adwaith (2019), Boy Azooga (2018), The Gentle Good (2017), Meilyr Jones (2016), Gwenno (2015), Joanna Grusome (2014) , Georgia Ruth (2013), Future of the Left (2012) a Gruff Rhys (2011).

Llun: @kellyleeowens drwy Twitter

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.