Newyddion S4C

Cynnydd yn achosion Covid ar gyfandir Ewrop yn dangos yr 'angen difrifol’ i frechu

Sky News 20/11/2021
S4C

Mae cynnydd mewn achosion Covid- 19 ledled cyfandir Ewrop yn dangos yr angen 'difrifol' i frechu rhag yr haint, medd cynghorydd gwyddonol y llywodraeth.

Wrth siarad gyda Sky News, Dywedodd yr Athro John Edmunds bod achosion ar y cyfandir yn dangos “pa mor gyflym y gall bethau fynd o chwith”.

Ychwanegodd bod “miliynau” o bobl ym Mhrydain heb eu brechu’n llawn, a bod rhai heb dderbyn yr un brechiad. 

Daeth ei sylwadau wrth i nifer o wledydd Ewropeaidd ymateb i gynnydd serth mewn achosion.  

Fe fydd Awstria yn cychwyn cyfnod clo cenedlaethol o ddydd Llun, a'r wlad gyntaf yn yr UE i wneud brechu yn orfodol.

Mae protestiadau wedi eu cynnal yn Awstria yn erbyn y cyfyngiadau newydd. 

Dywedodd Elen Marchl sy'n byw yn Awstria bod nifer o bobl yn y wlad yn gwrthod cael y brechlyn.

“Maen nhw’n bobl sydd wir ddim eisiau ei gael o. Felly, wy’n credu bod  gorfodi nhw gael e yn gwthio nhw at bethe droi yn gas."

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud eu bod yn ‘bryderus tu hwnt’ am y cynnydd sydyn mewn achosion Covid-19 ar gyfandir Ewrop. 

Yn ôl y sefydliad, mae un person yn marw o’r feirws yn Ewrop tua bob chwarter awr.  

Fe fydd Awstria yn cychwyn cyfnod clo cenedlaethol o ddydd Llun, ac yn y wlad gyntaf yn yr Undeb Ewropeaidd i wneud brechu yn orfodol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.