Llywodraeth Cymru a’r Alban yn ‘pryderu’n ddwys’ am y broses o ddewis Cadeirydd nesaf Ofcom

20/11/2021
teledu

Mae Llywodraethau Cymru a’r Alban wedi dweud eu bod yn “pryderu’n ddwys” am y broses o ddewis Cadeirydd nesaf y rheoleiddiwr darlledu, Ofcom.

Mewn llythyr at Ysgrifennydd Gwladol y DU dros faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Nadine Dorries, mae Gweinidogion o Gymru a'r Alban wedi gofyn am “gael eu cynnwys” yn y broses.

Yn ôl y ddwy lywodraeth, mae angen i Gymru a’r Alban gael eu “cynnwys yn llawn” yn y broses o benodi unigolyn i’r rôl er mwyn sicrhau bod yr ymgeisydd yn "rhywun sy'n gallu gweithio'n ddiduedd ac yn annibynnol er budd yr holl genhedloedd."

Mae llefarydd ar ran y DCMS [Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU] wedi dweud y bydd y broses o ddewis ymgeisydd yn deg ac yn wrthrychol.

Rôl Ofcom yw rheoleiddio'r hyn sy'n cael ei ddarlledu yn y DU.

Bydd gofyn i'r Cadeirydd newydd "herio a chefnogi'r Prif Weithredwr",  gyda gofyn i'r ymgeisydd terfynol fynychu gwrandawiad gyda phwyllgor dethol yn Nhŷ'r Cyffredin cyn y penodiad.

'Pryderus am ddiffyg tryloywder'

Ond, mae'r llythyr gan Lywodraethau Cymru a'r Alban yn dweud eu bod yn "bryderus iawn am y diffyg didueddrwydd a thryloywder canfyddedig o'r prosesau penodi presennol yn Ofcom."

Mae'r llythyr wedi ei llofnodi gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau Llywodraeth Cymru, Dawn Bowden, a'r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd Lee Waters, yn ogystal ag Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth yr Alban Angus Robertson a'r Ysgrifennydd Cyllid a'r Economi Kate Forbes.

Mae'r llythyr yn dweud: "O ystyried pwysigrwydd darlledu gwasanaeth cyhoeddus i'n cenhedloedd, a'r effaith wirioneddol ar ein cenhedloedd o unrhyw benderfyniad ar ddewis Cadeirydd Ofcom nad yw'n dryloyw nac yn ddiduedd, rydym yn eich annog i'n cynnwys yn llawn yn y broses fel sy'n iawn i ddiogelu system sydd mor bwysig i'r cyhoedd yng Nghymru a'r Alban a'r DU gyfan."

Mae'r Gweinidogion hefyd yn pwysleisio eu bod eisoes wedi ysgrifennu at olynydd Nadine Dorries, Oliver Dowden, yn esbonio'u disgwyliadau am broses deg.

Ond, maent yn dweud bod "angen i [ni] fynd ymhellach."

'Proses recriwtio deg'

Mewn ymateb i'r datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y DCMS: “Mae'r broses recriwtio yn deg, yn agored ac yn cyd-fynd â'r Cod Llywodraethol ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus, sy'n dangos yn glir bod yn rhaid i banelau asesu fod yn wrthrychol wrth ddewis pa ymgeiswyr sy'n cwrdd â'r meini prawf ar gyfer rôl.

"Mae'r broses yn cael ei reoleiddio gan y Comisiynydd ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus, sy'n gyfrifol am sicrhau fod y penodiad yn cael ei wneud ochr yn ochr â chanllawiau llym."

Mae'r dyddiad cau ar gyfer rôl y Cadeirydd ddydd Iau nesaf, gyda chyfweliadau i gael eu cynnal ym mis Rhagfyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.