
Eisteddfod gyntaf ond 'gwahanol i'r arfer' i'r Ffermwyr Ifanc
Eisteddfod gyntaf ond 'gwahanol i'r arfer' i'r Ffermwyr Ifanc
Mae’r Eisteddfod genedlaethol gyntaf i groesawu torf ers dechrau’r pandemig yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn.
Pafiliwn Bont ym Mhontrhydfendigaid fydd y lleoliad ar gyfer Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru eleni.
Yn ôl Cadeirydd y mudiad yng Nghymru, maen nhw “ar flaen y gad” wrth addasu i’r ‘normal newydd’ o gynnal Eisteddfod mewn pandemig.
Dywedodd Caryl Hâf Cadeirydd CFfI Cymru fod y mudiad yn “llawn bwrlwm” ar gyfer y ‘Steddfod eleni.
“Digwydd bod mai ffermwyr ifanc sydd yn cynnal Eisteddfod ym mis Tachwedd felly ni ar flaen y gad fel mudiad ar gyfer yr Eisteddfod a ni yn edrych ymlaen i groesawu pawb ‘nôl aton ni,” meddai.
“Ni wedi cael ambell i gystadleuaeth wyneb yn wyneb yn barod yn ystod y flwyddyn y ffermwyr ifanc ers mis Medi.
“Ond wrth gwrs hwn fydd y gystadleuaeth gynta’ le fydd y cyhoedd yn gallu ymuno gyda ni.”

Ond ni fydd yr Eisteddfod yr un fath â’r arfer.
Yn wahanol i flwyddyn arferol, bydd rhaid i aelodau’r gynulleidfa fod wedi prynu tocyn o flaen llaw.
Ychwanegodd Caryl bod y mudiad yn gweithio’n agos gyda’r Cyngor lleol ac yn sicrhau fod gan bawb yn y gynulleidfa bàs Covid neu ganlyniad prawf llif unffordd negyddol.
“Byddwn ni hefyd yn gofyn iddyn nhw fod yn gwisgo masgiau a byddwn ni’n awyru y lleoliad bob hyn a hyn rhwng cystadlaethau er mwyn neud yn siwr bo ni yn cadw pawb yn ddiogel.”
Yn ôl Caryl, mae mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru yn barod i gyd-weithio gyda mudiadau eraill wrth i weithgareddau ail-gydio yn dilyn llacio’r cyfyngiadau.
“Ar ddiwedd y dydd, mae’n rhaid ni gyd fod yn cyd-weithio gyda’n gilydd er mwyn ‘neud yn siwr bod pob un o’r mudiadau yma, boed yn Eisteddfod Genedlaethol, yr Urdd, yr Ŵyl Gerdd Dant ac yn y blaen yn medru ffynnu o beth sydd wedi digwydd i ni yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha’.
“Dyw hi ddim wedi bod yn rhwydd i dim un ohonon ni fel mudiadau ac ‘yn ni fel Mudiad y Ffermwyr Ifanc yn barod i drin a thrafod y positif a’r negatif o’r ‘Steddfod fydd gyda ni dros y penwythnos.”
‘Aelodaeth yn cynyddu’
Oherwydd cyfyngiadau’r cyfnodau clo, bu’n rhaid i’r Ffermwyr Ifanc fel nifer o fudiadau symud eu gweithgareddau ar-lein.
Fe rybuddiodd is-gadeirydd y mudiad ar y pryd am effaith y cyfyngiadau ar aelodaeth wrth siarad â Newyddion S4C.
Mae’r mudiad wedi cynyddu’r oedran aelodaeth i 28 oed i geisio mynd i’r afael â hyn a rhoi cyfle i bobl fwynhau mwy o brofiadau.

Ond bellach yn gadeirydd ar y mudiad, dywed Caryl Hâf fod y sefyllfa sy’n wynebu’r mudiad yn iachach erbyn hyn.
“Mae yn braf i nodi fod aelodaeth yn cynyddu gyda ni o’i gymharu â llynedd, mae’r aelodaeth tipyn yn uwch gyda ni.
“Ond mae yn fwy braf i nodi bod cyfran yr aelodaeth mewn blwyddyn arferol yn uwch eleni nag yn arferol felly mae hynny’n newyddion da.”
Lluniau: Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru