
CFFI Cymru: Cynnal aelodaeth yn 'dalcen caled'
CFFI Cymru: Cynnal aelodaeth yn 'dalcen caled'
Mae mudiad Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn dweud fod nifer eu haelodau wedi gostwng tua 30% oherwydd y pandemig.
Wrth siarad yn ystod Eisteddfod rithiol gyntaf CFFI Cymru, dywedodd Caryl Haf, Is-gadeiryddes CFFI Cymru fod "blynyddoedd caled" o'u blaenau nhw fel mudiad.
Er eu bod nhw wedi derbyn grant sylweddol gan Lywodraeth Cymru, maen nhw'n galw am fwy o gymorth er mwyn ail-adeiladu wedi'r pandemig.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y mater yn un i’r llywodraeth nesaf wedi etholiad y Senedd ym mis Mai.
Mewn blwyddyn arferol fe fyddai rhai o 5,000 o aelodau’r CFFI yn heidio yn eu cannoedd i gystadlu yn Eisteddfod CFFI.
Ond oherwydd y pandemig, mae’r mudiad wedi gorfod addasu, gyda’r Eisteddfod CFFI rithiol gyntaf yn cael ei chynnal yr wythnos hon.
Gyda’r cystadlaethau yn cael eu darlledu ar wefannau cymdeithasol y mudiad, mae Caryl Haf yn gobeithio bydd yr Eisteddfod rithiol yn cynnig “rywbeth positif i rywbeth sydd wedi dod a pob peth i stop yn ystod y deuddeg mis diwethaf”.
Derbyniodd CFFI £137, 000 o’r Gronfa Adferiad Diwylliannol gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad i effaith y pandemig ar eu gwaith.
O dan dermau’r grant hwn mae disgwyl i’r mudiad wella hyfforddiant ar gyfer staff ac aelodau, yn ogystal â gwneud newidiadau i’r gwaith marchnata.
Dywed y mudiad nad ydy’r arian yma’n ddigon i newid eu sefyllfa ariannol fregus, wrth edrych i’r dyfodol a chynllunio ar gyfer y gwaith adfer yn dilyn pandemig Covid-19.

‘Talcen caled iawn’
Er gwaethaf ymdrechion y mudiad i addasu, mae’r pandemig wedi bod yn ergyd sylweddol – gyda nifer yr aelodau wedi gostwng tua 30%.
Rhwng Medi 2019 a Medi 2020, roedd gan y mudiad 4653 o aelodau. Hyd yma mae 1639 wedi ymaelodi ar gyfer y flwyddyn 2020 – 2021.
“Ma fe yn anffodus, mae’r cwymp mewn aelodaeth wedi bod gyda’r mudiad gyda’r 12 mis diwethaf,” meddai’r is-gadeiryddes.
“Fel holl fudiadau eraill yng Nghymru, mae hi wedi bod yn dalcen caled iawn i gael aelodau i ddod aton ni yn anffodus.
“Mae’r cwymp yn tua 25 i 30 % gyda ni yn cwymp yr aelodaeth. Mae rhai siroedd wedi cael mwy byth o gwymp na hyn yn anffodus. Ond ar draws y spectrwm rydyn ni yn edrych ar y canran ny.”
Mae’r mudiad yn gobeithio gallu rhoi platfform i aelodau presennol yn ystod yr Eisteddfod, a gwahodd unigolion i ymuno.
“Ni’n annog pawb i ddod 'nôl fel aelodau gyda’r mudiad,” meddai.

Sefyllfa ‘anffodus'
Ychwanegodd Caryl Haf: “Ers y sgwrs dwetha i ni ddim mwy mlaen yn cael unrhyw gymorth ariannol gan y llywodraeth yn Gaerdydd.
“Mae hynny yn anffodus i ni fel mudiad ar hyn o bryd. Mae na fudiadau tebyg i ni wedi cael y gefnogaeth arian yma gan y llywodraeth.
“Felly ni yn siarsio arnyn nhw i gefnogi mudiad y ffermwyr ifanc yng Nghymru, y mudiad cryfaf sy gyda ni yma yng Nghymru sy’n dod a chymunedau ynghyd.”
Gan ein bod mewn cyfnod etholiadol, nid yw’r llywodraeth presennol yn gallu rhoi sylw ar achosion penodol, gan gynnwys pryderon presennol CFFI.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai hyn yn fater i’r llywodraeth nesaf yn dilyn etholiad y Senedd ar 6 Mai.