Dyn yn euog o anfon pecyn amheus i ffatri frechlyn yn Wrecsam

Mae dyn oedd ag "obsesiwn" gyda coronafeirws wedi ei gael yn euog o achosi pryder ar ôl anfon bom i ffatri frechlyn yn Wrecsam.
Yn Llys y Goron Maidstone ddydd Iau, cafwyd Anthony Collins yn euog o anfon eitem drwy'r post gyda'r bwriad o awgrymu y byddai'n debygol o ffrwydro neu fynd ar dân.
Fe wnaeth y dyn 54 oed o Chatham, Caint, anfon y pecyn i ffatri Wockhardt yn Wrecsam fis Ionawr gan atal y cynhyrchiad o'r brechlyn Oxford-AstraZeneca ar y safle am gyfnod.
Mae Collins ar fechnïaeth tan iddo gael ei ddedfrydu ar 24 Tachwedd, yn ôl North Wales Live.
Darllenwch y stori'n llawn yma.