Boris Johnson yn cyfaddef ei fod yn 'glir' fod Owen Paterson wedi torri rheolau
Mae Boris Johnson wedi cyfaddef ei fod yn "glir" fod y cyn-A.S. Ceidwadol Owen Paterson wedi torri'r rheolau ar lobïo.
Roedd y Prif Weinidog yn cael ei holi yn ystod sesiwn o'r Pwyllgor Cyswllt ddydd Mercher ynglŷn â'r ffrae dros safonau Aelodau Seneddol yn San Steffan.
Roedd Mr Paterson, cyn-Aelod Seneddol dros Ogledd Sir Amwythig, yn destun ymchwiliad gan y Comisiynydd Safonau Seneddol am dorri'r rheolau lobïo ar ôl cael ei gyhuddo o dderbyn tâl gan fusnesau i wneud ymholiadau ar eu rhan yn Nhŷ’r Cyffredin.
Yn lle dilyn argymhellion y Comisiynydd i wahardd Paterson am 30 diwrnod, fe wnaeth y Prif Weinidog geisio newid y system safonau.
Mae Mr Paterson nawr wedi ymddiswyddo fel A.S. yn dilyn beirniadaeth chwyrn o'r achos ac ymateb y Llywodraeth i'r hyn yr oedd wedi ei wneud.
Yn gynharach ddydd Mercher yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog, dywedodd Mr Johnson ei fod wedi bod yn "gamgymeriad" i ddefnyddio achos aelod unigol fel rheswm i gyflwyno newidiadau ehangach i'r broses apêl.
Wrth siarad gyda'r pwyllgor, dywedodd ei fod yn "difaru' ei benderfyniad, a chyfaddefodd fod ymddygiad Mr Paterson yn "anghyffredin" ac yn erbyn y rheolau.
Ychwanegodd ei fod yn "gamgymeriad" i beidio gwahardd aelodau o'r Senedd rhag dal swyddi ychwanegol yn gynharach - wedi i adroddiad pwyllgor Seneddol argymell hyn yn 2018.
Mae'r Prif Weinidog nawr wedi cyhoeddi cynlluniau i wahardd ASau rhag gweithiomewn swyddi ychwanegol, ac mae'r blaid Llafur wedi galw am bleidlais ar y mater.