Newyddion S4C

Cleifion diabetes yn teimlo iddynt ‘gael eu hanghofio’

17/11/2021

Cleifion diabetes yn teimlo iddynt ‘gael eu hanghofio’

Mae menyw sydd â diabetes yn teimlo iddi gael ei anghofio yn ystod y pandemig.

Cafodd Sian Fisher, 27 mlwydd oed o Rydaman ddiagnosis o ddiabetes math un pan yn dair blwydd oed, ac mae hi wedi rheoli'r cyflwr ers hynny.

Ond yn ôl Ms Fisher, mae’r diffyg cefnogaeth sydd wedi bod ar gael yn ystod y pandemig wedi gwneud byw gyda diabetes yn broses fwy pryderus.

Daw hyn wrth i elusen Diabetes UK Cymru godi pryderon am effaith y pandemig ar amseroedd aros a gofal pobl sy'n byw â'r cyflwr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mae eu cynllun adfer ar gyfer y GIG wedi'r pandemig yn cynnwys buddsoddiad ychwanegol i wasanaethau cyflyrau cronig.

Image
x
Mae Sian Fisher wedi byw gyda diabetes math un ers yn dair blwydd oed.

Yn ôl elusen Diabetes UK Cymru, nid Ms Fisher yw’r unig un sy’n teimlo bod eu gofal wedi ei heffeithio gan y pandemig.

Mae'r ffigurau newydd yn dangos bod 40% o bobl â diabetes yng Nghymru wedi cael apwyntiadau wedi eu canslo sydd heb eu hail drefnu.

Dyw un o bob tri heb gael cyswllt gyda'u tîm diabetes ers dechrau'r pandemig hefyd, yn ôl yr elusen.

Yn arferol mae Ms Fisher yn cael ei gweld yn yr ysbyty unwaith y flwyddyn er mwyn cynnal profion a monitor ei chyflwr.

“Sa’ i wedi cael fy ngweld yn yr ysbyty ers dros ddwy flynedd nawr," meddai.

“Rwyf wedi cael galwadau ffôn riw bum munud o hyd a dyna ni.

“Mae yna broblem mae'n rhaid i mi ddweud.”

‘Teimlo ar ben fy hunan’

Mae Ms Fisher yn pryderu y bydd y diffyg cefnogaeth i bobl dydd a diabetes yn broblem hirdymor.

“Dwi’n teimlo bod hyn yn mynd i fod yn broblem tymor hir, achos cyn y pandemig oni’n cael fy ngweld yn flynyddol yn yr ysbyty, lle oedd pethau yn cael ei sortio.

“Dwi’n poeni, fi’n un sy’n eitha conscious a dwi eisiau i fy lefelau inswlin i fod yn dda a pam mae pethau'n codi dwi eisiau gallu cael atebion.

“Fi’n teimlo ar ben fy hunain, a dwi’n poeni ble mae’r gefnogaeth. Achos dyle ni gael mwy na galwad ffôn nawr ac yn y man: dyla ni gael regular check ups a’r cymorth sydd angen arnom ni.”

Image
diabetes
Mae'n rhaid i bobl sy'n byw â diabetes brofi lefelau siwgr y gwaed yn rheolaidd.

Yn ystod yr haf roedd Ms Fisher wedi dioddef sawl hypoglycemia neu ‘hypo’ lle mae lefel siwgr yn eich gwaed yn gostwng yn rhy isel.

"Oni’n trio ffonio am help a oedd y syrjeri yn dweud wrthai ffonio’r ysbyty," meddai.

“Daeth o i’r pwynt lle oni’n methu ambell i fore yn y gwaith achos oni’n cael hypos gwael a does neb wedi ffonio i checkio na dim byd.

“Fi yn poeni ac yn becso am y sefyllfa a bod yn onest.”

Mae’r elusen Diabetes UK Cymru yn lansio ymgyrch newydd dydd Mercher, ‘Diabetes Is Serious’, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn gofal a gwasanaethau diabetes.

'Gweithio i wella safonau'

Yn ôl yr elusen, mae ffigurau yn dangos cwymp pryderus yn nifer y bobl â diabetes sy’n derbyn yr wyth proses o ofal a sy'n cael ei argymell i leihau’r risg o gymhlethdodau diabetes difrifol. 

Mewn datganiad i Newyddion S4c, dywedodd llefarydd o Lywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod bod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar bobl sy'n byw gyda diabetes.

"Rydym wedi cyhoeddi bron i £250m o fuddsoddiad ychwanegol fel rhan o'r cynllun adfer i'r GIG, sydd yn cynnwys buddsoddiad i driniaeth cyflyrau cronig mewn cymdeithas.

"Rydym yn parhau i gydweithio gydag ein Grŵp Gweithredu Diabetes, sydd yn cynnwys Diabetes UK Cymru i wella safonau triniaeth i bobl sydd yn byw gyda diabetes."

Dywedodd llefarydd o Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: "Mae'r GIG ar draws Cymru wedi wynebu pwysau digynsail oherwydd y pandemig ac rydym yn parhau i fod o dan bwysau.

"Dydy hyn ddim yn unigryw i Fae Abertawe, ond mae wedi effeithio ar apwyntiadau wyneb yn wyneb gyda chleifion.

"Er hyn, rydym wedi cynnal apwyntiadau rhithiol a dros a ffôn trwy gydol y pandemig ac yn parhau i weld cleifion mewn person pan bod wir angen."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.