Bygythiad terfysgol 'difrifol' i'r DU wedi ffrwydrad car yn Lerpwl

Bygythiad terfysgol 'difrifol' i'r DU wedi ffrwydrad car yn Lerpwl
Mae lefel y bygythiad terfysgol yn erbyn y DU wedi codi o fod yn "sylweddol" i fod yn un "difrifol" - gyda "thebygolrwydd uchel" o ymosodiad medd y Swyddfa Gartref.
Yn gynharach ddydd Llun, fe gafodd ffrwydrad y tu allan i Ysbyty Merched Lerpwl fore dydd Sul ei gofnodi fel "digwyddiad terfysgol" gan yr heddlu.
Ffrwydrodd tacsi ychydig cyn 11:00 mewn parth gollwng ger mynedfa’r ysbyty, gan ladd y teithiwr ac anafu'r gyrrwr.
Mae'r heddlu'n dweud mai Emad al Swealmeen, 32 oed, oedd y teithiwr fu farw yn y ffrwydrad.
Mae gyrrwr y tacsi, sydd wedi ei enwi yn lleol fel David Perry, wedi cael ei ddisgrifio fel 'arwr' gan Faer Lerpwl, Joanne Anderson, am gloi'r sawl sydd dan amheuaeth tu mewn i'r cerbyd.
Mae pedwar dyn wedi eu harestio, gyda tri o'r pedwar yn cael eu holi dan rymoedd y Ddeddf Terfysgaeth.
Darllenwch y stori'n llawn gan Sky News yma.
The independent Joint Terrorism Analysis Centre has changed the UK national terrorism threat level to SEVERE.
— Home Office (@ukhomeoffice) November 15, 2021
This means that a terrorist attack is highly likely.
People should be alert but not alarmed & report concerns to the police.
Read more: https://t.co/Ly71RNUxmO pic.twitter.com/cQXoa23q5U
Llun: Paul Ellis / AFP/ Wochit