Arestio tri dan y Ddeddf Terfysgaeth ar ôl ffrwydrad angheuol mewn car yn Lerpwl

Mae tri dyn wedi eu harestio dan y Ddeddf Terfysgaeth mewn cysylltiad â ffrwydrad angheuol mewn car yn Lerpwl.
Bu farw un person ac anafwyd un arall mewn cysylltiad â'r ffrwydrad tu allan i Ysbyty Menywod Lerpwl am 10:59 fore Sul 14 Tachwedd.
Yn ôl The Independent, mae tri dyn 29, 26 a 21 oed, wedi eu dal gan swyddogion mewn gorsaf yn ardal Kensington o'r ddinas.
Dywedodd yr heddlu "nad yw'r ffrwydrad wedi ei gyhoeddi fel digwyddiad terfysgol, ond bod swyddogion gwrth-derfysgaeth yn arwain yr ymchwiliad rhag ofn."
Ychwanegodd The Independent "nad oes unrhyw gadarnhad os oes cysylltiad rhwng amser y ffrwydrad â gwasanaethau Sul y Cofio", sy'n dueddol o gael eu nodi gyda munud o dawelwch am 11:00
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Imago Images drwy Wotchit