Bendithio cwpl hoyw mewn eglwys am y tro cyntaf yng Nghymru

Mae cwpl hoyw wedi derbyn bendith mewn eglwys am y tro cyntaf yng Nghymru.
Cafodd perthynas y Tad Lee Taylor a'i gymar Fabiano Da Silva Duarte wasanaeth eglwysig i fendithio'u perthynas ddydd Sadwrn, yn ôl Nation.Cymru.
Daw hyn ar ôl i ddeddfwriaeth newydd sy’n caniatáu i gyplau o’r un rhyw gael bendithio eu priodas neu bartneriaeth sifil yn yr Eglwys yng Nghymru ei gytuno ym mis Medi.
Er hynny, does dim hawl gan gyplau hoyw i briodi mewn eglwys dan reolau'r Eglwys yng Nghymru.
Dywedodd y Tad Lee Taylor bod y digwyddiad yn teimlo'n "hynod arbennig" ond bod ganddo "deimladau cymysg" am y ffaith na all cyplau hoyw briodi mewn eglwys yma.
Darllenwch y stori'n llawn.