Gŵr Nazanin Zaghari Ratcliffe yn stopio ymprydio ar ôl 21 diwrnod

Mae gŵr Nazanin Zaghari Ratcliffe wedi rhoi'r gorau i ymprydio tu allan i'r Swyddfa Dramor yn Llundain ar ôl 21 diwrnod.
Cychwynodd Richard Ratcliffe ei ail streic newyn fis diwethaf mewn ymgais i berswadio’r Swyddfa Dramor i wneud mwy i sicrhau bod ei wraig yn cael ei rhyddhau o’r carchar yn Iran.
Mae ei wraig wedi ei charcharu yno ers 2016 ar ôl cael ei chyhuddo o ysbïo, yn ôl Sky News.
Yn gynharach fis Hydref, cyhoeddodd awdurdodau Iran bod Mrs Zaghari Ratcliffe wedi colli ei hapêl yn erbyn ail ddedfryd o garchar.
Fe wnaeth Mr Ratcliffe ddiolch i bawb am eu cefnogaeth wrth orffen ei ympryd gan ddweud bod angen dau riant ar eu merch, Gabriella.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: @FreeNazanin drwy Twitter