Cymru yn sicrhau lle yn y gemau ail gyfle i gyrraedd Cwpan y Byd
Mae Cymru wedi sicrhau lle yn y gemau ail gyfle i gyrraedd Cwpan y Byd 2022.
Roedd buddugoliaeth Sbaen yn erbyn Groeg nos Iau yn ddigon i sicrhau'r lle hwnnw i'r crysau cochion.
Dyma'r tro cyntaf ers 1958 i Gymru sicrhau lle yn y gemau ail gyfle.
Mae gobaith o hyd y gallai Cymru symud i fod yn ail yn eu grŵp - byddai angen pedwar pwynt rhwng eu dwy gêm nesaf i sicrhau hynny.
Mae hynny'n golygu ennill un gêm a sicrhau gêm gyfartal o leiaf.
Fe fydd Cymru yn wynebu Belarws nos Sadwrn yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Bydd y garfan wedyn yn herio Gwlad Belg yng Nghaerdydd nos Fawrth.
Gwlad Belg sydd ar hyn o bryd ar frig Grŵp E yng ngemau cymhwyso Cwpan y Byd.
Mae tipyn o ddarogan a fydd y Capten Gareth Bale yn dechrau'r gêm bryd hynny.
Os fydd Bale ar y cae, fe fydd yn ennill ei 100fed cap dros ei wlad.
Bydd Cymru yn herio Belarws nos Sadwrn gyda'r gic gyntaf am 19:45.
Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans