Un o bwyllgorau'r Senedd i graffu ar sefyllfa ail-gartrefi Cymru

11/11/2021
Arwydd Hawl i Fyw Adra

Mae un o bwyllgorau'r Senedd wedi dechrau ymgynghoriad ar sefyllfa ail-gartrefi yng Nghymru er mwyn casglu barn y cyhoedd ar y pwnc dadleuol.  

Mae'r ymchwiliad yn cael ei gynnal gan y Pwyllgor Llywodraeth Lleol a Thai ac yn gobeithio derbyn cyfraniadau o amrywiaeth eang o bobl - gan gynnwys rhai sydd wedi'u effeithio a pherchnogion ail-cartrefi eu hunain.

Pwrpas yr ymchwiliad yw i gasglu tystiolaeth ar effaith ail-gartrefi ar gymunedau a barn y cyhoedd ar waith y llywodraeth ar y pwnc. 

“Mae perchen ar ail gartref yn fater sydd wedi dod i amlygrwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf," dywedodd cadeirydd y pwyllgor, John Griffiths A.S. 

“Rydym am glywed gan bobl ledled Cymru sy’n gweld effeithiau ail gartrefi ar ein heconomi, ein cymdeithas a’n diwylliant, boed hynny’n gadarnhaol neu’n negyddol.

“Bydd eich lleisiau a’ch straeon yn ein helpu i amgyffred realiti’r sefyllfa yng Nghymru a sicrhau bod gennym y wybodaeth gywir ar gyfer craffu ar Lywodraeth Cymru," ychwanegodd. 

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 14 Ionawr 2022. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.