Dyn wedi marw yn dilyn ymosodiad difrifol yn Sir Benfro
10/11/2021
Mae dyn wedi marw yn dilyn ymosodiad difrifol yn Sir Benfro.
Bu farw Lee Thomas, 41, o Gil-maen ger tref Penfro, yn yr ysbyty fore Mercher.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i'r ymosodiad yng Nghwrt Dinbych-y-pysgod, Cil-maen ar 13 Hydref 2021.
Cafodd Nathanial Nuttal, o Gil-maen ei gyhuddo o ymosod yn dilyn y digwyddiad ac mae wedi ei gadw yn y ddalfa.
Mae teulu Mr Thomas yn ymwybodol o'i farwolaeth ac maen nhw'n derbyn cefnogaeth swyddogion arbenigol.
Mae'r ymchwiliad yn parhau.
Llun: Google