
Galw am well cefnogaeth i fenywod sy'n cael trafferth wrth drio am ail blentyn

Galw am well cefnogaeth i fenywod sy'n cael trafferth wrth drio am ail blentyn
Mae cwpl o Wynedd yn galw am well cefnogaeth i deuluoedd sy'n cael trafferth ag anffrwythlondeb eilaidd - sef trafferthion wrth drio cael ail blentyn.
Mae Manon a Chris Roberts o'r Bala wedi gwario £14,000 ar driniaethau IVF aflwyddiannus.
Dywedodd Manon wrth raglen Newyddion S4C fod yr anhawster o feichiogi am yr eildro yn "dorcalonnus".
Yn ôl Llywodraeth Cymru nid oes ystadegau ar gael i ddangos faint o bobl sydd wedi eu heffeithio.
Ond mae rhai meddygon yn dweud bod methu cael ail blentyn yn fwy cyffredin nag anffrwythlondeb cynradd - neu drafferthion wrth drio cael babi cyntaf.
“Ar ôl beichiogrwydd naturiol, y peth olaf ‘de chi’n feddwl ’se chi’n gorfod ddelio hefo ydi anffrwythlondeb," dywedodd Manon.
"Dwi ‘di neud o unwaith, felly dylwn i allu’i neud o eto. Ond dydy ddim bob amser mor hawdd â hynny.”
'Cael hi'n anodd siarad'
Mae Manon a Chris wedi bod yn trio beichiogi ers dros saith mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae Manon wedi cam-esgor ac wedi bod drwy ddau gylchred o driniaeth IVF.
“Ar y dechrau, roeddem yn ei chael hi’n anodd siarad am secondary infertility, ac roedden ni’n cadw popeth i ni’n hunain," meddai.
"Dwi’n teimlo ein bod yn byw mewn oes reit feirniadol, ac roedd gen i ofn i bobl wneud i mi deimlo fel dylwn i ddim cwyno gan fod gennym blentyn yn barod, a bod ein profiad neu golled ddim mor ddrwg â’r cyplau hynny sy’n methu cael plant o gwbl.”
“Dwi wedi cael llawer o bobl yn dweud – ‘O wel, o leiaf bod gennych chi un plentyn.’ ”

Yn fam i Efa sydd erbyn hyn yn wyth oed, doedd Manon erioed wedi ystyried y byddai beichiogi am yr eildro yn broblem.
Ond, wedi dros flwyddyn o drio a chymryd sawl prawf, dywedodd yr arbennigwyr fod ei siawns o feichiogi’n naturiol bron yn amhosibl, a'r unig ffordd i feichiogi oedd drwy IVF.
Mae’n rhaid i bobl dalu am y driniaeth os oes ganddyn nhw blentyn eisioes.
Fe gafodd Manon a Chris Roberts ddau gyfnod o driniaethau IVF - y cyntaf yn 2017 a’r ail yn 2020.
Roedden nhw’n costio £7000 yr un.
“Roedd IVF yn ein dychryn ni’n ofnadwy,” meddai Manon. “Yn enwedig i rhywun fel fi sydd gymaint o ofn nodwyddau!
“Mae’r broses i gyd reit tricky o ran y feddyginiaeth a’r injections gan eich bod yn gorfod eu cymryd ar yr union amser cywir neu yn risgio chwalu’r holl gylchred.
“Dwi’n lwcus iawn fod gen i ŵr mor anhygoel a theulu a ffrindiau agos sydd mor gefnogol sydd wedi bod gyda ni bob cam o’r daith.”
'Mae'n torri 'nghalon i'
Aflwyddiannus oedd y ddau driniaeth IVF, ac mae Manon yn teimlo’n euog nad oes gan Efa gwmni brawd neu chwaer.
“Dwi wedi colli cownt o faint o weithiau y daeth hi adre o’r ysgol neu barti pen-blwydd yn ei dagrau gan fod gen hi ddim brawd neu chwaer i chware hefo adre," ychwanegodd Manon.
“Mae’n torri 'nghalon i.”
Mae Manon yn teimlo nad oes digon o gefnogaeth i rieni sy’n cael trafferth cael ail fabi.
“Yn anffodus, dwi’n teimlo bod cyplau sy’n dioddef o secondary infertility yn tueddu i gael lot llai o gefnogaeth cymdeithasol ac ariannol na’r cyplau sydd hefo Primary infertility.
“Dylai’r angen am gymorth ddim cael ei anwybyddu. Mae pawb hefo stori unigryw eu hunain.”

Mae’r cwpwl o’r Bala yn galw ar fwy o gymorth i bobol sydd ddim yn gallu fforddio’r driniaeth.
“Dwi’n teimlo bod y ffaith bod cyplau sydd yn dioddef o secondary infertility yn gorfod talu £7000 am un rownd o IVF yn hurt.
“Pam na allan nhw gynnig rownd am hanner y pris os nad yw’r rownd gyntaf yn gweithio?
“Dim pawb sydd mewn sefyllfa ariannol digon sefydlog i gael IVF fel opsiwn, sy’n golygu bod y cyplau hynny’n cael eu diystyru’n llwyr.”
Drwy rannu ei phrofiadau mae Manon Roberts yn gobeithio agor y drafodaeth er mwyn helpu eraill.
Mae hi wedi cael cysur mawr, meddai, gan fforymau trafod ar wefanau cymdeithasol.
“Mae cymaint o safeloedd ar rwydweithiau megis Facebook ac Instagram hefo cyplau sydd yn mynd drwy’r un daith â chi.
“Maen nhw’n rhywle lle dwi’n gallu bod yn agored a gonest gyda’n nheimladau heb neb yn fy meirniadu.
“Mae anffrwythlondeb wedi effeithio’n iechyd meddwl i. Es i’n isel iawn a dioddef o or-bryder ar ôl rownd gyntaf IVF, ond erbyn yr ail rownd, roeddem wedi clywed am llawer mwy o gyplau oedd yn mynd trwy’r broses ac yn fodlon rhannu eu stori.
“Mi wnaeth hyn lawer o wahaniaeth i ni, a’n hannog ni i rannu ein stori.”

O ran y dyfodol mae’r Manon a Chris wedi penderfynu peidio cael triniaeth IVF arall. Maen nhw wedi ystyried mabwysiadu, ond yn deud mai canolbwyntio ar fwynhau bywyd fel teulu o tri sy’n bwysig nawr.
“Da ni wedi dechrau derbyn mai un plentyn fydd gennym ni, a ’de ni’n iawn hefo hynny."