Menyw o Geredigion yn galw ar arweinwyr COP26 i 'achub ei chymuned'

ITV Cymru 10/11/2021

Mae arweinwyr mwyaf pwerus y byd wedi dod ynghyd yn Glasgow ar gyfer cynhadledd hinsawdd COP26.

Un arall sydd hefyd wedi teithio yno yw menyw o Gymru sy’n galw ar wleidyddion i wneud mwy i daclo'r argyfwng hinsawdd.

Mae Kim Williams o bentref Borth ar lannau Bae Ceredigion yn pryderu ni fydd dyfodol i’w chartref os fydd yr hinsawdd yn parhau i newid.

Mae gan Borth hanes o ddioddef llifogydd ac mae system rhybuddio yn y gymuned ar gyfer tywydd eithafol.

Mae rhai gwyddonwyr yn rhagweld gallai’r pentref fod o dan ddŵr ymhen cyn lleied â naw mlynedd oni bai bod gostyngiadau mewn allyriadau carbon ac effaith nwyon tŷ gwydr.

Image
S4C
Borth ar lannau Bae Ceredigion

Wrth siarad gyda rhaglen y Byd ar Bedwar, dywedodd Ms Williams bod angen mwy nag isadeiledd newydd i amddiffyn ei chymuned.

“Da ni angen help gyda storm boards neu storm gates ond sticking plaster 'di hwn. Mae'n neud i bobl deimlo'n well ond dyw'r broblem ddim yn mynd i ffwrdd.

“Dwi ddim eisiau gadael Borth, mae fy nghalon i yma. Mae gen i hanes fan hyn, felly dwi ddim eisiau symud ond mae’n rhaid i ni fod yn realistig, mae pethau yn mynd i newid.

“Mae rhaid i Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Ceredigion gychwyn siarad efo pobl am sut ‘da ni’n mynd i fyw a lle da ni mynd i fyw.

“Mae pawb sy’n byw fan hyn yn caru byw ar lan y môr, maen nhw eisiau byw lan y môr. Ond be’ sy’n mynd i ddigwydd?”

Yn ôl Dafydd Edwards, aelod cabinet Cyngor Ceredigion ar gyfer Gwasanaethau Amgylcheddol y flaenoriaeth yw sicrhau bod pethau ddim yn gwaethygu.

“Ar hyn o bryd ni’n edrych ar warchod Aberaeron, gwaith yn Aberystwyth, Llangrannog, Borth ac Ynyslas, ble mae’r bygythiadau'n mynd i fod yn y pump, deng, bymtheg mlynedd nesa."

Mae lleoliadau eraill yng Nghymru yn wynebu bygythiadau tebyg i Borth medd gwyddonwyr.

Mae ymchwil gan sefydliad Climate Central yn dangos gallai lefelau godi rhwng dwy a saith troedfedd dros yr 80 mlynedd nesa.

"Petai hyn yn digwydd byddai rhannau mawr o ardaloedd fel Caerdydd ac Abertawe dan ddŵ

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo ariannu amddiffynfeydd ychwanegol rhag llifogydd ar gyfer o leiaf 45,000 o gartrefi yn ystod y tymor presennol.

Hefyd, mae £36 miliwn wedi ei ddarparu eleni i awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Image
S4C
Mae Kim Williams yn galw ar wleidyddion i wneud mwy i daclo'r argyfwng hinsawdd.

Yn ôl Ms Williams nid yw'r addewidion hynny ddim yn ddigonol os fydd ein hinsawdd yn parhau i droi’n fwy eithafol, a’n moroedd yn parhau i godi.

Wrth orymdeithio yn Glasgow disgrifiodd Ms Williams y profiad yn “overwhelming”.

“Jysd i weld pawb a’r grwpiau gwahanol sydd fan hyn, jyst i sefyll i fyny a dweud ‘ie, mae’n rhaid i bethau newid’ a jyst i fod fan hyn, mae hwn yn massive iawn.”

Er nad yw Ms Williams yn hollol ffyddiog am lwyddiant COP26, mae hi’n gobeithio y bydd ymateb chwyrn i daclo newid hinsawdd er lles trigolion Borth a gweddill y byd.

Llun: Dai Lygad