Person wedi ei anafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad ym Mhowys

NS4C 08/11/2021

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth ar ôl i berson gael ei anafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad ym Mhowys.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A4113 ger Tref-y-Clawdd am 11:20 fore dydd Sul.

Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys dau gerbyd sef fan Peugeot Boxer arian a char Hyundai Kona llwyd.

Cafodd un person ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Mae dyn 42 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o yrru o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.

Mae wedi ei ryddhau dan ymchwiliad tra bod ymholiadau’n parhau.

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd â lluniau camera dashfwrdd i gysylltu â nhw, gan ddefnyddio’r cyfeirnod DP-20211107-171.