
Achub dyn o ogof ar ôl bod yn sownd ers deuddydd

Achub dyn o ogof ar ôl bod yn sownd ers deuddydd
Mae dyn oedd yn sownd mewn ogof ym Mannau Brycheiniog ers deuddydd bellach wedi ei achub.
Yn ôl Tîm Achub Ogofâu De a Chanolbarth Cymru, fe gwympodd y dyn i mewn i Ogof Ffynnon Ddu yn ardal Ystradgynlais ddydd Sadwrn 6 Tachwedd.
Dywedodd y tîm bod y dyn wedi gadael yr ogof am 19:45 ac mae wedi ei drosglwyddo i'r ysbyty am driniaeth bellach.
Mae asiantaeth newyddion PA yn adrodd ei fod wedi dioddef nifer o anafiadau, gyda'i ên a'i goes wedi eu torri, ac mae hefyd wedi anafu asgwrn ei gefn.
Roedd yr ymgyrch i'w achub yn un sylweddol gyda dros 300 o bobl wedi bod yn rhan o'r ymgyrch.
Roedd 10 o dîmau achub ar draws y DU yn rhan o'r gwaith yn ogystal â'r gwasanaethau brys.
Gwariodd y criwiau 54 awr yn ceisio symud y dyn allan o'r ogof a'i achub.
Yn ôl y tîm achub, fe gafodd y dyn ei symud yn nes tuag at un allanfa ar y mynydd ger Penwyllt fore dydd Llun.
Yn ôl Tîm Achub Ogofâu De a Chanolbarth Cymru, roedd hi'n "niwlog iawn" ger yr ogof wrth i'r tîmau wneud eu gwaith.
Dywedodd llefarydd yn gynharach ei bod yn "anodd gweld yr allanfeydd" oherwydd y tywydd.

‘Ogof boblogaidd iawn’
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae system ogofau Ffynnon Ddu ymhlith “y mwyaf yn Ewrop ac yn boblogaidd iawn gydag ogofwyr profiadol.”
Cafodd y system o ogofâu eu darganfod yn 1946 ac mae’n ymestyn am bellter o tua 60km.
Dim ond pobl sydd â'r offer priodol a thrwydded gan Glwb Ogofâu De Cymru all gael mynediad i’r ogofâu, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.
Ym mis Medi, adroddodd Tîm Achub Ogofau De a Chanolbarth Cymru bod dau berson wedi eu hachub o Ogof Ffynnon Ddu.
Cafodd y ddau fan anafiadau ar ôl i ddau garreg mawr syrthio yn yr ogof.
Cafodd tîm ehangach eu galw i achub y ddau.
Dywedodd llefarydd bryd hynny eu bod yn "lwcus" o fod wedi "osgoi anafiadau difrifol".
Llun: Tîm Achub Ogofâu De a Chanolbarth Cymru