Dyn wedi ei gyhuddo o drywanu dau ynghanol Caerdydd
07/11/2021
Mae Heddlu’r De wedi cadarnhau fod dyn 19 wedi ei gyhuddo o ymosod a bod a gwrthrych miniog yn ei feddiant yn dilyn digwyddiad yng nghanol y brifddinas ddydd Gwener.
Mae dau ddyn yn parhau yn yr ysbyty lle maen nhw’n derbyn triniaeth am anafiadau sydd ddim yn peryglu bywyd.
Bydd Ania Hernandez o ardal Cathays, Caerdydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.